Goleudy Pen Strwmbwl / Strumble Head Lighthouse

Adeiladwyd y goleudy yn 1908 gan ddefnyddio gweithwyr o swydd Dyfnaint. Byddai’r gweithwyr yn aros gyda theuluoedd yr ardal, ac fe fu o leiaf un priodas rhwng Sais ac un o’r rocesi lleol. Priododd Miss Hannah Davies, o fwthyn ‘North Pole’ gyda Tom Barwick o Lynmouth, Dyfnaint.

Wrth edrych ar y lluniau cynnar gallwn weld bod shimneau ar gyfer tan glo yn yr adeilad. Byddai stof yn y gegin ac aelwyd yn y stafell fyw. Cofnododd Mr Syd Walters mai ei dad, David R Walters, o Stop and Call oedd y cyntaf i gario glo i’r ynys. Gweithiodd gyda chwmni glo rhwng 1914-18 oherwydd, er yn ddyn ifanc, doedd ei iechyd ddim yn ddigon da iddo fynd i’r rhyfel.  Byddai cario glo i’r goleudy yn waith trwm. (Bu farw David yn 37 oed yn Nhachwedd 1918, pan oedd ei fab ifanca, Syd, yn 6 mis oed).

Cliciwch ar y ddolen pdf isod i ganfod mwy o wybodaeth

The lighthouse was built in 1908 using workers brought in from Devonshire. They  would lodge with the families of the area, following to at least one marriage between a Devon man and one of the local girls. Miss Hannah Davies, from ‘North Pole’ cottage, married Tom Barwick from Lynmouth, Devon.

Looking at the early pictures we can see that there are chimneys on the roof. There would be a stove in the kitchen and a an open fire in the living room. Mr Syd Walters recorded that his father, David R Walters, of Stop and Call was the first to carry coal to the island. He worked with a coal company between 1914-18 because, although a young man, his health was not good enough for him to fight in The Great War. Carrying coal to the lighthouse would be heavy work. (David died at the age of 37 in November 1918, when his youngest son, Syd, was 6 months old).

Click on the pdf link below for more information.

Yr adeilad newydd tua 1910 / The new building around 1910
Y llwybr i'r goleudy / Path to the lighthouse.
Darn o bont i'r goleudy yn cael ei gario trwy Fferm Tresinwen tua'r arfordir / A section of the bridge being carried by lorry towards the coast through Tresinwen Farm.

Downloads

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.