Festri Ebenezer Vestry - Stop and Call

Ebenezer Chapel
Y festri yn 2010 / The vestry in 2010
Casgliad ‘Ein Hanes’ Collection

Dechreuodd yr adeilad hwn fel Eglwys Gatholig a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr Gwyddelig fu’n gweithio i’r GWR, yn gosod lein y reilffordd heibio i Greigiau Treffgarn.

Pan nad oedd angen yr adeilad arnynt mwyach, fe’i prynwyd gan un o drigolion Wdig a’i leoli ar rhiw Stop and Call. Gwasanaethodd fel cartref dros dro i aelodau Capel Annibynnol Ebeneser, a oedd yn bwriadu adeiladu capel mwy mawreddog ar y llain o dir i’r chwith o’r llun. Hyd nes i’r adeilad newydd gael ei agor yn swyddogol mae’n debyg fod gwasanaethau capel yn parhau yma. Wedi hynny, daeth yn festri.

Roedd toiledau ar wahân ar gyfer merched a dynion wedi’u lleoli yma yn ogystal â chegin fach. Mae llwyfan pren mawr gyda llenni yn dal i sefyll y tu mewn i’r adeilad, gyda lle i gynulleidfa sylweddol, ond mae ôl troed yr adeilad yn llai nag yr oedd. Er mwyn ehangu’r lle ar gyfer traffig, tua 2012, dymchwelwyd rhan flaen yr adeilad, ond mae steil yr adeilad fel y bu erioed.

Tynnwyd y llun hwn o negatif gwydr a grëwyd gan D L Llewellyn, y fferyllydd lleol ar Sgwâr Wdig.

This building started out as a Roman Catholic Church used by the Irish workmen who were working for the GWR, laying the line through Treffgarne Gorge.

When it was no longer required, it was purchased by a Goodwick resident and sited on Stop and Call hill. It served as a temporary home for the members of Ebenezer Independent Chapel who were planning a more imposing chapel building for the plot of land to the left of the photograph. Until the new building was officially opened it is likely that chapel services continued here. Thereafter, it became the vestry.

Seperate toilets for ladies and gentlemen were sited here as well as a lean to kitchen. A large wooden stage with curtains still exists inside, with space for a considerable audience, but the footprint of the building is smaller than it was. In order to widen the space for passing traffic, around 2012, the front portion of the building was demolished, but the style is largely unchanged.

This image was taken from a glass plate negative created by D L Llewellyn, the local chemist on Goodwick Square.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.