Cerdd i'r Mauretania / Mauretania Poem

Cartref y bardd 'Delyn Fach' yn Feidr Gongol, Penucha'r Dre / 'Delyn Fach', Feidr Gongol, Pendre - home of the poet J Harries.
John Harries, Delyn Fach - gyda'i ddosbarth Ysgol Sul yng Nghapel Hermon / with hos Sunday School Class at Hermon Chapel 1912

In 1909, when the Mauretania was welcomed to the area, Mr John Harries of Delyn Fach, Fishguard wrote a 39 verse poem to celebrate the occasion. The verses appeared in the County Echo. They capture the immense pride that local people felt in the development of the harbour.

PENILLION byrfyfr ar ymweliad llong fawr y Mauretania â Bae Abergwaun, Awst 30ain, 1909.

1 Beth yw’r berw sy’n bodoli?
Beth yw’r dyrfa fawr sy’n tyru ?
Lluoedd llon sy’n teithio yma,
I groesawu’r Mauretania.

2 Dyfod maent o’r de a’r gogledd
Er mwyn gwel’d golygfa rhyfedd
Pawb sy’n rhuthro am y cynta’
Er croesawu’r Mauretania.

3 Dod mae’r ffermwyr, dod mae’r gweithwyr
Yr offeiriaid a’r pregethwyr.
Gwreng a bonedd am y cynta’
Er croesawu’r Mauretania.

4 Daw boneddwyr yn eu modur,
Daw y diwyd, daw y segur,
Daw y tlydion ar eu gyrfa
I groesawu’r Mauretania.

5 Llawer bachgen ar ddeurodyn
Welir heddyw’n teithio’n sydyn,
Er mwyn gweled merched Efa,
A chroesawu’r Mauretania.

6 Ffermwyr hoff y wlad yn brydlon
Sydd yn deffro sêl y gweision
Oll i frysio am y cynta’
Er croesawu’r Mauretania.

7Mae’r meistresi yn galonog
Yn gwahodd eu merched bywiog,
Er ymdrechu hyd yr eitha
Gael croesawu’r Mauretania.

8 Daw y tadau, daw y mamau,
Daw y plant yn eu ribanau,
Oll i uno gyda’r dyrfa
I roi ‘cheers’ i’r Mauretania.

9 Gwelais forwyr yno’n llawen
Yn rhoi croesaw i’r lythyren
Roedd yr hen a’r ieuanc yma.
Yn croesawu’r Mauretania.

10 Llanwyd Abergwaun a’r cylchoedd,
Hwlffordd a Thyddewi luoedd
Gwyr ramantus, cryfion Solva
Ddôn’t i wel’d y Mauretania.

11Minau âf a’r teulu’n llawen,
Gadael pobpeth heb ei orphen
Cyrchu’n frysiog tuag yna,
Er croesawu’r Mauretania.

12 Dod mae’r cloffion, dod mae’r cleifion,
Dod yn brydlon ac yn gyson
Gwelwyd deillion yn y dyrfa
Yn croesawu’r Mauretania.

13 Y meddygon ddônt yn brydlon,
Dod gan adael yr holl gleifion.
Dod yn frysiog am y cynta’
Er croesawu’r Mauretania.

14 Holl drigolion Jabez mwynlon,
A Chasmael-filoedd ffyddlon
Yn cyduno gyda’r dyrfa
Er croesawu’r Mauretania.

15 Dod mae’r cryddion oll i ddiben,
A’r esgidiau heb eu gorphen,
Er bod yno gyda’r dyrfa
Yn croesawu’r Mauretania.

16 Gwyr o Drefdraeth ddont yn ffyddiog,
Ac o’r Dinas oll yn fywiog
Er cael golwg y tro cynta’
Ar faintioli’r Mauretania.

17 Gwyr Glanteifi ddont yn selog,
Ac o’r Ferwig yn galonog,
Gan obeithio’i chael yn hindda,
Er cael gwel’d y Mauretenia.

18 Dyfod mae y rhai galarus,
Er eu bod yn dra anhwylus
Ond er colli rhai anwyla’,
Rhaid oedd gwel’d y Mauretania.

19 Dod mae’r mulod gan grechwenu,
A’r ebolion gan garlamu
Teithio’n gyflym tuag yma
Er croesawu’r Mauretania.

20 Daeth pob teiliwr a phob siopwr
Gyda’i gilydd, a phob crefffewr
Unent yn gytun fod yma
Er croesawu’r Mauretania.

21 Abergwaun sy’n llawn banerau,
Goodwick sydd yn chwyfio’r lliwiau,
Mae’r preswylwyr ar eu heitha
Yn croesawu’r Mauretania.

22 Disgwyl bellach mae pob calon,
Pawb a’i olwg ar y fwyn-don.
A phob gallu gwan a draetha
Glodydd pur y Mauretania.

23Bellach dacw’r llong yn dyfod,
Ac mae pawb a’i groesaw’n barod;
A’r traethwylwyr a fynega,
Croesaw byth i’r Mauretania.

24 Ond er syndod, rhai feddylient
Nad hi ydoedd ‘run ddisgwylient;
Ac fe droisant ffwrdd yn gwta,
Heb wel’d gwerth y Mauretania.

25 Ond rhan fwyaf ymhyfrydent
Mewn mawrhydru’r llong ddisgwylient;
A chyd-ddiolch mewn un dyrfa
Am gael gwel’d y Mauretania.

26 Daeth i fewn yn dywysogaidd,
Dod yn dawel ac yn wylaidd.
Dod yn agos iawn tro cynta’
Fel y gallai’r Mauretania.

27 Prin am awr y darfu aros
Ar ôl dyfod fewn mor agos.
Fry i Lerpwl hi ddychwela,-
Myn’d a dod mae’r Mauretania.

28 Myned rhagddo mae trafnidiaeth,
Mewn gwelliantau, i oruchafiaeth.
Y llong fwyaf welir yma.
Ydyw hon – y Mauretania.

29 Chwech o oriau cyfain bellach
Efrog Newydd sydd agosach.
Prydain lwydda wrth farchnata,
Drwy gyfryngiaeth Mauretania.

30 Gynt gymerai chwech o fisoedd,
Er myn’d drosodd hwnt i’r moroedd
Pum’ diwrnod prin fe groesa
Agerlong y Mauretania.

31 Llwyddiant byth i Gwmni’r Cunard,
A’i hanwyl-ddyn Cadben Pritchard
Cymro cyfan o Gaernarfon,
Ddaeth a’r Mauretania’n brydlon.

32 Llwyddiant i’r Great Western Railway.
Am bar’toi y cyfleusderau.
Creigiau Goodwick ‘nawr adseinia
Glodydd lu i’r Mauretania.

33 Cyrhaedd Llundain fawr yn drefnus
Wnaeth y teithwyr oll yn hapus,
fod y fordaith yma
Yn roi clod i’r Mauretania.

34 Bellach, dyrfa, ymwasgarwch,
Cyfan drosodd fel y gwelwch
Yr orymdaith ar ddeurodau,
A’r asynod mewn ribanau.

35 Tanio rockets ar Ben-cowrw,
Tyrfa yno heb ddim twrw;
A chyd-floeddient bawb eu heitha,
Llwyddiant byth i’r Mauretania.

36 Hodges wylaidd oedd yn llywio,
A’r holl dorf yn cynorthwyo,
Er gwneyd pobpeth hyd eu heitha
Er croesawu’r Mauretania.

37 Cadwent oll y dorf yn fywiog
Gyda’r band a’i bechgyn gwenog,
Lluoedd ddaeth o Pembroke yma.
I groesawu’r Mauretania.

38 Cofiwch oll y flwyddyn yma,
Mil, naw cant a naw,-ac yna
Olaf ddydd ond un yn ddiau
O fis Awst y glaniodd hithau.

39. Dydd a gofir byth tra hanes
Byd yn cerdded ‘mlaen yn gynes,
Pobl Abergwaun a gofia
Dydd ymweliad Mauretania.

gan J. Harries, Delyn Fach, Abergwaun.

 

 

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.