E Narbett - family butcher / cigydd teuluol

E. Narbett. Butcher
Barry Thomas.
The County Echo 17-5-1906

This Butcher’s shop run by E. Narbett was situated on Fishguard Square. Does anyone know where exactly?

The Narbett family lived at Park House on the Kensington St / Hottipass corner at one time and there was a field known as ‘Narbett’s field’ at Windy Hall. However, Mr T H Narbett and his wife, and their daughter, Rhian, were at one time living at Glanmoy, Goodwick …..

Also, there was another member of the family – David Llewellyn Narbett, who was born in Fishguard in 1900, and who emigrated to live in Fremantle, Australia. There is more research to be done on this interesting family.

At different times, Narbetts (sometimes spelt ‘Narbed’ or ‘Narbet’ were to be found well scattered in the area – some at Ambleston, some at Llanfartin, others at Maen Hir near Cefnydre, and again at Hendrefach, near Jordanston.

A Capt William Narbett, born in Fishguard c. 1840 was living in San Francisco at the time of the great earthquake in April 1906. He sent a letter home to Fishguard, to the Cartref Hotel, where his sister, Mrs Williams, was proprietor, telling her that he and his family were safe and well. The story was reported in the County Echo. Capt Narbett died at San Francisco on 27-4-1915 aged 76 years. He had lived there for 35 years. The County Echo 30-5-1915 carried the news of his passing.

Roedd y siop yma yn cael ei rhedeg gan E. Narbett ac wedi’i lleoli ar Sgwâr Abergwaun. Oes rhywun yn gwybod ble yn union?

Roedd y teulu Narbett yn byw yn Park House ar gornel Kensington St / Hottipass ar un adeg ac roedd cae o’r enw ‘Narbett’s field’ yn Windy Hall. Fodd bynnag, cofir bod Mr T H Narbett a’i wraig, a’u merch, Rhian, yn byw yng Nglanmoy, Wdig …..

Hefyd, yr oedd aelod arall o’r teulu – David Llewellyn Narbett, a anwyd yn Abergwaun yn 1900, wedi ymfudo i fyw yn Fremantle, Awstralia. Mae llawer mwy o waith ymchwil i’w wneud ar y teulu diddorol hwn

Ar wahanol adegau, roedd aelodau o’r Narbett (weithiau wedi’i sillafu ‘Narbed’ neu ‘Narbet’) i’w cael ar wasgar yn yr ardal – rhai yn Nhreamlod, rhai yn Llanfartin, eraill ym Maen Hir ger Cefnydre, ac eto yn Hendrefach, ger Trefwrdan.

Roedd Capten William Narbett, a aned yn Abergwaun c. 1840 yn byw yn San Francisco ar adeg y daeargryn mawr yn Ebrill 1906. Anfonodd lythyr adref i Abergwaun, i Westy’r Cartref, lle’r oedd ei chwaer, Mrs Williams, yn berchennog, yn dweud wrthi ei fod ef a’i deulu yn ddiogel. Adroddwyd yr hanes yn y County Echo. Bu farw Capten Narbett yn San Francisco ar 27-4-1915 yn 76 mlwydd oed. Yr oedd wedi byw yno am 35 mlynedd. Roedd  y County Echo ar 30-5-1915 yn cynnwys newyddion am ei farwolaeth.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.