Mr David Morgan, Cwm - National Service

Mr David Morgan 1949 -1951 Hyfforddiant gyda'r Peirianwyr Brenhinol / Training with The Royal Engineers - Cove, Farnborough & Long Marsden, Stratford on Avon.
David Morgan -rhes gefn, trydydd o'r chwith, yng Ngwersyll y Peirianwyr Brenhinol yn Cove, ger Farnborough 1949. / David Morgan - back row, third from left, in the Royal Engineers Camp at Cove, near Farnborough 1949.
We David Morgan o Gwm Abergweun wedi ei alw i Wasanaeth Cenedlaethol yn 1949 pan wedd e’n 18 oed. Gyda’r Peirianwyr Brenhinol yr halodd ei amser. Hwn oedd y tro cyntaf eriôd iddo adael cartref.

Wedd e wedi’i leoli yng Ngwersyll Southwood, Cove ger Farnborough ac ar ôl y 15 wythnos cyntaf, anfonwyd Davey i Long Marsden ger Stratford upon Avon am ddouddeg wythnos arall o hyfforddiant. Cadwai mewn cysylltiad â’i deulu yn y Cwm wrth sgrifennu llythyre bob wythnos.

Ar ôl gorffen yr hyfforddiant, cafodd ei hala nôl i Cove a Weymouth lle nath e joio ei amser yn adeiladu pontydd Pontŵn a dysgu gwaith ‘explosive demolition’.

Yn ystod’i amser i ffwrdd, cyfarfu â lot o bobl o ardal Abergweun, ond neb we’n  neud eu Gwasanaeth Cenedlaethol yr un peth ag e’i hunan.

Unwaith y dâth Gwasanaeth Cenedlaethol i ben, dewisodd Davey aros yn Weymouth am 6 mis arall yn gweithio yn y bragdy lle we nhw’n bragu cwrw, cyn dod gatre i’r Cwm.

Ar ôl gorffen ei Wasanaeth Cenedlaethol, am y pedair blynedd nesaf, wedd e’n gwneud cyrsiau hyfforddi, pythefnos o hyd, pob blynyddyn, fel rhan o’r cynllun ‘milwyr wrth gefn’ Argyfwng Cenedlaethol (reservists) we yn bod, bryd hynny.

Am fwy o wybodaeth am y bois lleol fu’n neud ‘Gwasanaeth Milwrol – gwasgwch fan hyn.

David Morgan of Lower Town, Fishguard was called up for National Service in 1949 when he was 18 years old, serving in the Royal Engineers. This was the first time he had ever left home.

He was stationed at Southwood Camp, Cove near Farnborough and after the initial 15 weeks training was sent to Long Marsden near Stratford upon Avon for a further 12 weeks training. He kept in touch with his family in Lower Town with weekly letters.

On completion of the training, he was transferred back to Cove and Weymouth where he enjoyed his time building Pontoon bridges and learning explosive demolition work.

During his time away he did meet a few Fishguard locals but all were working away and none were actually undertaking their National Service.

Once National Service finished he opted to stay in Weymouth for a further 6 months working in the local brewery before returning home to Lower Town. After completing his National Service he returned for the next four years to undertake annual two week training courses as part of the National Emergency reserve scheme that was in force at that time.

For more information on local lads who completed ‘National Service’, press here.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.