Bedydd yn y Gwaun / Baptism in the River Gwaun

Bedydd yn yr afon, ger y bont, yng Nghwm Abergwaun 1905.

Bedyddiwyd 94 o aelodau ar gyfer Capel Hermon gan y Parchg Dan Davies. Mae’r bedyddfan i’w weld ar lan yr afon yn ardal y Mwsland hyd y dydd heddi. (Mae’r llun yma, o bosib, yn dangos digwyddiadau arall yn ystod ‘Blwyddyn y Fedydd Fawr’, gan nad oes llawer o dillad gaeaf yn cael eu gwisgo). Yn y degawdau diweddar mae pob bedydd wedi digwydd yn adeilad y Capel, yn y pwll Bedydd yn y Sedd Fawr, o dan y pwlpid.

Mae’n ddiddorol bod Parchg Dan Davies hefyd yn defnyddio bedyddfa ger Glanainon, ar bwys y fynwent, yn ystod yr un flwyddyn.(Gwelir yr adroddiad o’r ‘County Echo’.)

Cyn hyn, bu’r Parchg James Rowe yn defnyddio y ddau leoliad.Yn y gyfrol ‘Cant o Bregethau y Diweddar Barch James Rowe, Abergwaun,’ mae cofnod o’r nifer o aelodau newydd y gwnaeth Rowe fedyddio yn ystod ei weinidogaeth yn Hermon, rhwng 1859 a 1867. Dyma nhw – 1860-14 aelod, 1861- 9 , 1862 – 15,   1863 – 12, 1864 – 55, 1865 – 10, 1866 – 12, 1867 – 23 aelod.
Yn gyfan, bedyddiodd bron i gant a hanner o aelodau yn yr Afon Gwaun, – y cyntaf ar ddydd Nadolig 1859, a’r olaf ar 2il o Fehefin 1867.

Diolch i Natasha de Chroustchoff am wybodaeth ychwanegol

Baptism in the River Gwaun, Lower Town, Fishguard 1905.

94 baptisms were conducted on a cold January day by the minister, Rev Dan Davies of Capel Hermon. The baptism stone is still there, visible on the river bank in Mwsland. (This photograph, possibly, shows a baptism later in the year, as not many winter overcoats are in evidence). In recent decades, all baptisms have taken place in the chapel building itself, in the baptismal pool beneath the pulpit.

It is interesting that the Rev Dan Davies also baptised at Glanainon, near the cemetery during the same year. (See the report from ‘The County Echo’.)

Previously, Revd James Rowe used both locations. In the volume ‘A Hundred Sermons of the Late Rev. James Rowe, Fishguard,’ there is a record of the number of new members that Rowe baptized during his ministry at Hermon , between 1859 and 1867. Here they are – 1860-14 1861- 9, 1862 – 15,    1863 – 12, 1864 – 55, 1865 – 10, 1866 – 12, 1867 – 23 members. In all, nearly one hundred and fifty members were baptized by Rowe in the river Gwaun – the first on Christmas Day 1859, and the last on June 2, 1867.

 

With thanks to Natasha de Chroustchoff for additional information.

 

 

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.