Corgi'r Cwm i'r U.D.! / Cwm Corgi - 1st in U.S.!

Corgi Sir Benfro / Pembrokeshire Corgi - "Little Madam".
Ebrill / April 1951 The County Echo
Hen Dafarn y 'Dinas Arms' Cwm Abergwaun / 'Old Dinas Arms', Newport Road, Lower Town.
We chi’n  gwbod  mai  o Gwm Abergwaun yr aeth  y corgi Sir Benfro cyntaf i’r Unol Daleithiau? Prynwyd “Little Madam” am £12 gan Mrs Lewis Roesler o Massachusetts, tra yn Paddington, Llundain yn 1934. Mrs Florence A Lewis o’r Old Dinas Arms yn y Cwm oedd yn gwerthu  y diwrnod hwnnw.

Erbyn 1935, roedd “Little Madam” wedi ennill ei phencampwriaeth cyntaf. Wedyn, anfonwyd am gorgi arall o Abergwaun. Enw y ci hwn oedd “Capt William Lewis”. Mae’n bosib iddo gael ei enwi ar ôl aelod o deulu Florence?

Roedd Florence yn fridwraig brofiadol.  Yr oedd  hi ymhlith llawer o bobol Abergwaun yn y cyfarfod cyntaf i drafod datblygu ‘corgi Sir Benfro’. Yng Ngwesty’r Castell, Hwlffordd yr oedd y cyfarfod ac yr oedd Dai Rees, D T Davies, Serg. Fred Morse a Jack Symons, i gyd  o Abergwaun, gyda Florence yno, ymhlith eraill.

Bu Florence yn feirniad yn Sioe Crufts yn ogystal ag mewn nifer o sioeau eraill yng Nghymru a Lloegr.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu Florence yn  weithgar gyda’r W.R.N.S. yn ddiweddarach yn ei bywyd bu’n weithgar gyda’r Lleng Brydeinig, y W.I. a’r R.A.

Collodd Florence ei gwr, ar 13-6-1941, yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan suddwyd llong y St Patrick gan awyren Almeinig. Roedd William Lewis yn gogydd ar fwrdd y llong.

Bu farw Florence yn Ebrill 1951, yn 79 oed, yng nghartef ei merch yn Chippenham.

Did you know that the first Pembrokeshire corgi to go to the United States came from Lower Fishguard ? “Little Madam” was bought for £12 by Mrs Lewis Roesler from Massachusetts, while in Paddington, London in 1934. Mrs Florence A Lewis from the Old Dinas Arms, Newport Rd, Lower Town was selling that day.

By 1935, “Little Madam” had won her first championship.  Another corgi was sent for from Fishguard. This dog’s name was “Capt William Lewis”, possibly named after a member of Florence’s own family?

Florence was an experienced breeder. She was among many Fishguard people at the first meeting to discuss the development of the ‘Pembrokeshire corgi’. The meeting was at the Castle Hotel, Haverfordwest and there also were Dai Rees, D T Davies, Serg. Fred Morse and Jack Symons, all from Fishguard, with Florence.

Florence was a judge at the Crufts Show as well as at a number of other shows in England and Wales.

During the First World War Florence was active with the W.R.N.S. Later in life she was active with the British Legion, the W.I. and the R.A.

Florence lost her husband on the 13-6-1941, during the Second World War when the St Patrick was sunk by a German plane. William Lewis, aged 61, was a cook on board the ship.

Florence died in April 1951, aged 79, at her daughter’s home in Chippenham.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.