Y Post, Cwm Abergwaun / Lower Town Post Office

Y Swyddfa Bost a'r Siop, Cwm Abergwaun / The Post Office and Shop, Lower Fishguard c 1980
Y siop a'r 'Post' yn 1971 / The shop and 'Post Office' in 1971.
Tra bod ei wraig yn y siop yn y Cwm, yr oedd Mr Clive Jackson yn brifathro poblogaidd yn Ysgol Tredafydd. Dyma'r ddau ar ddydd eu priodas yng Nghapel Hermon, lle roeddent yn aelodau. / While his wife was at the shop, Mr Clive Jackson was a popular headmaster at Tredafydd School. Here they are seen on their wedding day at Hermon Chapel where they were both members.
Studio Jon
Mae’r lluniau yma yn dangos siop a phost y Cwm fel y mae nifer ohonom yn ei gofio. Ond mae hanes y lle yn mynd yn ôl llawer yn bellach nag yw un yn gallu cofio. Y teulu Evans oedd yma ers pedair  cenedlaeth a Lois Evans Jackson oedd yr olaf ohonynt i sefyll y tu ôl i’r cownter. Bu ei mam, ei mamgu a’i hen famgu yno  o’i blaen.

Yn 1860, agorodd Martha Harries siop grocer a phopty ar y safle, cyn iddi briodi.  Bu’n pobi ar gyfer anghenion y tlawd a’r cyfoethog, gan gynnwys Mr Worthington, perchenog Plas Glyn y mêl. Wedi dyddiau Martha, pasiwyd y busnes i’w merch.

Mr George Jones, tad Lois, wnaeth agor Swyddfa Bost yma yn 1932. Pan y bu farw Mr Jones, bu ei wraig, Mattie, yn cadw’r post am 43 o flynydde.

 

Yn 1964, daeth Lois a’i gwr, Clive, a’u mab Penry, yn ôl i’r pentre o Llundain, er mwyn cydio yn yr awennau.  Rhwng 1967 ac Ebrill 1992, buon nhw yn gwasanaethu’r gymuned yn y siop. Cafwyd ‘parti ymddeoliad’ yn adeilad y ‘Sea Cadets’, a drefnwyd iddynt fel syrpreis gan eu ffrindiau yn y gymuned.

Er mwyn gweld llun o Mrs Ann Evans, a’i merch Mattie  (mamgu a mam Mrs Jackson) gwasgwch yma.

These pictures show the Shop and Post Office at Lower Town as many of us remember it. But the history of the place goes back much further than anyone living can remember. The Evans family had been in business here for four generations, Lois Evans Jackson being the last to stand behind the counter. Her mother, grandmother and great grandmother were shopkeepers  before her.

Miss Martha Harries opened a grocery shop and bakery at the site in 1860, supplying bread to the rich and poor alike. Certainly, Mr Worthington of Plas Glyn y mèl was a regular customer. After Martha’s days, the busines was passed on to her daughter.

Mr George Jones, Lois’ father, opened a Post Office here in 1932. When Mr Jones died, his wife, Mattie, kept the post office for 43 years.

In 1964, Lois and her husband, Clive, and their son Penry, came back to the village from London, in order to take over the family enterprise. Between 1967 and April 1992, they served the community in the shop. A surprise ‘retirement party’ was arranged for them, at the Skirmisher, by their friends in the community.

To see a photograph of Mrs Jackson’s mother and grandmother – Mattie and Ann Evans, press here.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.