Un arall yn y gyfres gynnar o olygfeydd o’r Cwm – yn dyddio yn ôl pob tebyg rhwng 1900 -1910.
Roedd y bythynnod yn Glynymel yn gartrefi i deuluoedd oedd yn ennill eu bywoliaeth trwy’r ‘Plas’. Mae gan bob bwthyn ardd daclus sy’n cael ei thrin yn ofalus (mae llawer ohonynt wedi gweld tai modern yn cael eu hadeiladu arnynt ers hynny).
Mae’r olygfa hon yn dangos rhes o fythynnod (yn arwain allan o waelod y llun ar y chwith) gafodd eu dymchwel er mwyn i neuadd ‘Sefydliad y Merched’ gael eu hadeiladu. Pan gafodd hwnnw ei ddymchwel, daeth pâr o fythynnod modern, yn eu tro, yn ei le!
Mae’r felin i’w gweld yn glir yng nghanol y cerdyn post. Cariwyd dŵr ar gyfer olwyn y felin i lawr dros benfarch oddi ar yr Afon Gwaun. Ar un adeg, roedd gwlân a grawn yn cael eu prosesu yma mewn gwahanol rannau o’r adeilad. Roedd ‘The Gables’ – y tŷ ar wahân yn edrych i lawr ar y lleill, yn gartref i’r coetsmon yn ‘Y Plas’.
Another in the early series of Lower Town views – probably dating between 1900 -1910.
All of the cottages in this part of ‘Cwm’ were occupied by families whose livelyhoods were, in some way, connected to ‘Y Plas’ (Glynymel Mansion). All have neat and well tended gardens (many of which have seen modern dwellings built on them since).
This scene shows a row of cottages (leading out of shot bottom left) which were demolished in order for the ‘Womens Institute’ hall to replace them. When that was demolished, a pair of modern cottages, in turn, replaced it!
The mill can be clearly seen in the centre of the postcard – the water for the mill wheel was brought down by a leet off the River Gwaun. At one time, wool and grain were processed here in different parts of the building. ‘The Gables’ – the detached house looking down on the others, was home to the coachman at ‘Y Plas’.
No Comments
Add a comment about this page