Yr Aelwyd 1951 / 'Urdd' Welsh Youth Club 1951.

Gang yr Aelwyd ar draeth y Cwm 1951 'Urdd members at the end of Lower Town Quay 1951
Casgliad Mrs Eirlys Morris collection.
Mae’r Urdd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed eleni – 2022. Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi elwa’n fawr o’r cyfleoedd a roddwyd iddynt gan yr Urdd. Mae pobl fel Bryn Terfel, Hugh Edwards a Sian Phillips wedi datgan eu parch tuag at y mudiad ieuenctid hwn.

Yn Abergwaun, fel mewn llawer o drefi a phentrefi eraill, yr ‘Aelwyd’ oedd y cyfarfod wythnosol i ieuenctid fedru gynllunio pa weithgareddau yr hoffent gymryd rhan ynddynt….drama, mabolgampau, cerddoriaeth, cydadrodd, cystadlaethau a gwersylloedd, ayb.

Mae’r llun yma yn dangos rhai o aelodau’r Aelwyd ar ddydd Gwener, Awst 18fed, 1951. Yn y flwyddyn hon, cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd yn Abergwaun a daeth aelodau yma o bob cwr o’r wlad.

Mae gennym rai enwau…. Margaret Williams, Clive Rd; Margaret Andrews (Underwood gynt); Mair Morris (Harries gynt), Maenhir; Eirlys Morris (Owen gynt); David Owen ei brawd; Dilys James (Evans gynt); Brenda Miles (Harries gynt); Ken Owen a George Williams.

The ‘Urdd’ celebrates it’s 100 anniversary this year – 2022. Young people throughout Wales have benefited greatly from opportunities afforded them by the Urdd.  The likes of Bryn Terfel, Hugh Edwards and Sian Phillips have spoken highly of their respect for this youth movement.

In Fishguard, as in many other towns and villages, the ‘Aelwyd’ was the weekly get together for youngsters to plan which activities they wanted to take part in….drama, sports, music, recitation, competitions and youth camps etc etc.

This photo shows some of the Aelwyd members on Friday, August 18th, 1951. This was the year that all the Urdd members of Wales congregated at Fishguard for the national Urdd Eisteddfod.

We have some names….

Margaret Williams, Clive Rd; Margaret Andrews (nee Underwood); Mair Morris (nee Harries), Maenhir; Eirlys Morris (nee Owen); David Owen her brother; Dilys James (nee Evans); Brenda Miles (nee Harries); Ken Owen & George Williams.

 

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.