Pentrefwyr y Cwm yn jolihoitan ar ddydd y Coroni! / Lower Towners on the razzle on Coronation Day!

Carnifal yn Abergwaun adeg y Coroni 1953 / Coronation carnival 1953 Fishguard
H Hughes
Carnifal Abergwaun 1953 Fishguard Carnival
Bil Thomas & Nan Morgan - yn derbyn cwpannau / deceiving cups.
Un o'r gwobrau ym Mabolgampau y Coroni yng Nglyn-y-mêl - cwpan ras y bechgyn hýn / The cup awarded to the winner of the senior boys race at Glyn-y-mêl during the Coronation Sports.
B Thomas
Sgwar Abergwaun / Fishguard Square

Aelodau o gymuned y Cwm yn dathlu’r Coroni gyda’i gilydd ar Sgwâr Abergwaun, Haf 1953. Mae ambell wisg o dramor, o bosib wedi ffeindio ei ffordd i’r Cwm ar adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae ambell wisg arall dipyn yn hŷn, ac yn perthyn, o bosib i gyfnod dathlu canrif ‘Glaniad y Ffranceod’ yn 1897.

Yn eu plith mae Dannie Thomas a’i fab Bil.  Roedden nhw yn gwasanaethu’r gymuned wrth wneud angladdau yn lleol. Mae’r gwisgoedd yn amrywiol ac yn llawn hwyl ac ysbryd y cyfnod. Roedd mabolgampau wedi eu trefnu ym Mhlâs Glyn-y-mêl hefyd ar gyfer pentrefwyr y Cwm. Cafwyd tywydd da ar gyfer rhain hefyd.

Y teulu Thomas, o Gilgerran, oedd yn byw yn a pherchen y ‘plas’ ar y pryd. Mr Thomas a’i ferched, Gwenyth a Hedydd oedd yn cyflwyno y cwpannau aur i ennillwyr y campau ar lawnt Glyn-y-mel.

Villagers from Lower Town on Fishguard Square, celebrating the 1953 Coronation in carnival style. Some of the costumes show a foreign influence and may have found their way to Lower Town during the Second World War. However, others are considerably older and may have been made up for the Centennial Celebrations of the French Invasion in 1897.

Among them are Dannie Thomas and his son Bil. They served the local community as undertakers for many years. The costumes here are varied and full of fun, reflecting the spirit of the time. Sports were arranged for the villagers at Plâs Glyn-y-mêl and the weather was perfect of the festivities.

The Thomas family, of Cilgerran, owned and lived at Glyn-y-mêl at the time. Mr Thomas and his daughters, Gwenyth and Hedydd presented silver cups to the winners of each event on the front lawn at Glyn-y-mêl.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.