Cymeriade'r Cwm / Lower Town Characters

______ _______, Charlie Reynolds, Mary George, Yorrie George
Casgliad Mrs Y Channon Collection
Yn y llun hwn gwelir Mr a Mrs Yorrie George ar y dde. Roedden nhw yn byw ar ganol y Cei, yn y tý cyntaf yn nheras ‘Prospect Place’. Wrth ei waith, postmon oedd Yorrie, yn cerdded milltiroedd lawer i gario’r post i ffermydd Cwm Gwaun. Llwyddodd i wneud hyn er iddo golli ei fraich yn ystod y Rhyfel Mawr.  Am fwy o’i hanes, gwasgwch yma.

Yn sefyll nesaf at Mrs Mary George mae Charlie Reynolds, Caledonia House. Gweithiai Charlie ar y llongau pysgota o borthladd Aberdaugleddau.  Oherwydd iddo golli clun mewn damwain, nid oedd yn gallu codi’r rhwydi fel y pysgotwyr eraill ond roedd yn gyfrifol am baratoi bwyd i bawb ar gyfer teithiau pysgota. Roedd yn rhyfeddol o symudol ar y dŵr er gwaethaf ei goes bren a gellid ei glywed yn galw ‘fo’ard’ ac ‘afft’ a ‘shut down all engines’ hyd yn oed os oedd ar gwch pysgota bach ym mhen draw’r Cei, yn y Cwm.

Roedd y Teulu Reynolds wedi byw yn y Cwm ers degawdau. Darllenwch mwy amdanynt fan hyn.

Nid ydym wedi gallu adnabod y dyn sydd ar y chwith eto. Ydych chi’n gallu helpu?

In this photo you can see Mr and Mrs Yorrie George on the right. They lived in the middle of the Quay, in the first house of ‘Prospect Place’ terrace. For many years, Yorrie was a postman, walking countless miles delivering mail to Gwaun Valley farms. He did this inspite of losing an arm in the Great War. For more of his story, click here.

Standing next to Mrs Mary George is Charlie Reynolds, Caledonia House. Charlie worked on the fishing trawlers from Milford Haven. Because he had lost a leg in an accident, he was unable to handle the nets like the other fishermen but he was responsible for preparing food for the crew on fishing trips. He was amazingly mobile on the water in spite of his wooden leg and could be heard calling ‘fo’ard’ and ‘afft’ and ‘shut down all engines’ even if he was on a small fishing craft at the end of the Quay.

The Reynolds family were well established in the village. Read more about them by pressing here.

We are yet to identify the gentleman on the left. Can someone help?

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.