"Glyn-y-Mêl" 1906-37 - Teulu Chambers Family

'The County Echo' 24-11-1910
'The County Echo' 23-6-1910
Haverfordwest and Milford Haven Telegraph and General Weekly Reporter 17-9-1919
Florence E Chambers 1931 (Mynwent Penygroes / St Marys Cemetery)
Robert E Chambers 1937 (Mynwent Penygroes / St Marys Cemetery)
Beatrice A Chambers 1938 (Mynwent Penygroes / St Marys Cemetery)
11-3-1937 The County Echo
Yn 1906, ar farwolaeth John Worthington Ysw. ei nai, Robert George Chambers etifeddodd ystad Glyn-y-Mêl.

Ganwyd Robert yn Clough House, Kimberworth, Swydd Efrog yn 1846. Addysgwyd ef yn Ysgol fonedd Harrow ac yr oedd yn fab i Anne, merch William Worthington, brawd yr ‘hen sgweier’, John Worthington. Trosglwyddwyd yr etifeddiaeth iddo fe oherwydd i John golli ei unig fab, Herbert yn 1896. Pan fu farw John Worthington, Roedd Robert yn 60 oed, yn ddibriod, ac yn byw gyda’i chwiorydd, Florence a Beatrice. Roedd ganddynt bump o frodyr a chwiorydd eraill.

Bywyd cysurus oedd gan y teulu Chambers, wrth gwrs. Ymddiddorai Robert mewn bridio cŵn ac ychwanegu at y casgliad o blanhigion diddorol oedd yn tyfu yng ngerddi ‘y plâs’. Byddai ei chwiorydd yn ymddiddori mewn ychydig o wleidyddiaeth cyndeithasol tra’n gwneud gwaith da yng nghymuned Abergwaun.

Dyma engrhaifft o ddiddordeb Robert Chambers mewn ar ddangos cŵn o bapur ‘The County Echo’, 14-5-1908.

Pencampwyr Cŵn.— Mewn Sioe Gŵn ychwanegol yn Sir Benfro a Hwlffordd, a gynaliwyd yn y Farchnad Yd, Hwlffordd, ddydd Iau, enillwyd ruban glas y sioe am y ci neu yr ast goreu yn y sioe gan Mr R G Chambers, gyda’ “Fishguard Rex’, a oedd hefyd yn ennill cwpan arian ar gyfer y ci hela neu’r ast gorau yn y sioe…………”

 

Ym Medi 1919, yn dilyn y Rhyfel Mawr, gwelir arwerthiant tir ac diddordeb sylweddol yn Abergwaun – dros 80 lot yn cael eu gwerthu gan Wm Rees Carver mewn arwerthiant yn Neuadd y Dre. Mae Robert Chambers a’i gymydog Evan Jones o Bentowr ymhlith y prynwyr.

Cymerai Miss Beatrice Chambers ddiddordeb mewn cadw gwenyn a dofednod fel y gwelir o’r adroddiad, yn Awst 1919, ar y ‘North Pembs Agricultural Show’ yn Abergwaun.

Yn 1923, caiff ‘Miss Chambers, Glynymel’ ei chofrestri fel Ynad Heddwch yn ‘Kelly’s Directory’. Hefyd, mae Robert ac un o’i chwiorydd yn cael eu cofnodi fel aelodau o Helfa Dwrgŵn Sir Benfro a Sir Gâr ar gyfer 1926 ac 1927.

Yn anffodus, bu farw Florence Eliza Chambers yng Nglyn-y-Mêl ar y 19eg o Dachwedd, 1931, yn 80 mlwydd oed. Disgrifir ei brawd Robert fel ‘masnachwr wedi ymddeol’ yn ei hewyllys.

Bu Robert fyw yng Nglyn-y-Mêl am ddeng mlynedd ar hugain, gan farw yn 90 oed. Claddwyd ef ym Mynwent y Santes Fair ar yr 8fed o Fawrth 1937.

Bu farw Beatrice Anne Chambers mewn cartref nyrsio yn Malvern, Caerwrangon ar y 23ain o Fai 1938, yn 80 mlwydd oed.

 

In 1906, on the death of John Worthington Esq. his nephew, Robert George Chambers, inherited the Glyn-y-Mêl estate.

Robert was born in 1846 in Clough House, Kimberworth, Yorkshire. He was educated at Harrow public school and was the son of Anne, daughter of William Worthington, brother of the ‘old squire’, John Worthington. The inheritance passed to Robert because John had lost his only son, Herbert, in 1896. Robert was a 60 yr old batchelor living with his sisters Florence and Beatrice when he inherited Glyn-y-Mêl. The siblings had five more brothers and sisters.

The Chambers family led a life of privilege, of course. Robert was interested in dog breeding and in adding to the collection of specimen plants growing in the gardens. His sisters took an interest in politics while doing good work in the community of Fishguard.

 

Here is an example of Robert Chambers’ interest in the field of dog showing, from ‘The County Echo’, 14-5-1908.

Canine Champions.— At a supplimental Pembrokeshire and Haverfordwest Dog Show, held in the Corn Market, Haverfordwest, on Thursday, the blue riband of the show for the best dog or bitch in the show was won by Mr R G Chambers, with ‘Fishguard Rex’, which also annexed the silver cup for the best sporting dog or bitch in the show……….”

In September 1919, following the First World War, a substantial auction of land and property took place in the Fishguard area. Among over 80 lots which went under the hammer of auctioneer Wm Rees Carver at the Town Hall were several to Robert Chambers. He and his neighbour at Pentower, Evan Jones, were among the purchasers.

Miss Beatrice Chambers took an interest in beekeeping and poultry as can be seen from the report, in August 1919, on the ‘North Pembs Agricultural Show’ at Fishguard.

In 1923, ‘Miss Chambers, Glynymel’ is registered as a Justice of the Peace in ‘Kelly’s Directory’. We know that Robert and one of his sisters were members of  the Pembrokeshire and Carmarthenshire Otter Hunt in the 1926 and 1927 seasons.

However, Florence Eliza Chambers died at Glyn-y-Mêl on the 19th of November, 1931, aged 80yrs. Her brother Robert is described as a ‘retired merchant’ in her will.

Robert lived at Glyn-y-Mêl for thirty years, dying at the age of 90. He died on 4th of March 1937 and was buried at St Mary’s Cemetery on the 8th of March.

Beatrice Anne Chambers died at a nursing home in Malvern, Worcester on the 23rd of May 1938, aged 80yrs.

 

 

I

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.