Teulu Capten Titus Evans' family

Roedd y teulu Evans, yn wreiddiol, yn byw ym Mhenrhiw ar ben rhiw’r Cwm, ac wrth waelod Stryd Kensington. Yma y ganwyd y meibion – tri ohonynt. Cyn hir, symudon nhw i fyw, bron gyferbyn, yn Nhý Rhos. Mae i’r teulu hanes diddorol iawn. Un anffodus, nid oes llawer o ffotograffau o’r teulu wedi dod i’r amlwg, ond efallai, y gellwch chi helpu gyda hyn?The Evans family originally lived at Penrhiw (Hill House) at the top of Lower Town hill, just at the base of Kensington Street. Here, three sons were born. Soon, the family moved to Ty Rhos, opposite. The family members led interesting lives. Strangely, photographs of them are very difficult to find. Can you help us find some?
Capten Titus Evans. Ganwyd yn Gilfach, Llanychaer [25/12/ 1834], yn fab i Henry a Mary Evans. Bu ar y môr am hanner canrif cyn ymddeol tua 1894. Un tro, cariodd y gwleidydd Eidalaidd, Garibaldi,  ar ei long. Roedd yn feistr ar  nifer fawr o longau a bu mewn llongddrylliad ddwy waith – ar y ‘Crosby’ (31-8-1882) ac ar y  ‘Cid’ (23-6-1891).  Ymddeolodd tua 1894. Yn 1905 roedd yn gadeirydd Cyngor Plwyf Abergwaun. Hefyd, bu’n gadeirydd Cangen Abergwaun o’r RNLI. Roedd yn aelod, athro Ysgol Sul a swyddog yn Eglwys y Santes Fair. Yn wleidyddol, roedd yn Geidwadwr. Wedi ymddeol byddai yn helpu cadw’r fynwent yn daclus a pheintio y reilen o flaen yr eglwys. Roedd yn asiant lleol i’r ‘Royal Alfred Institution for Merchant Seamen’. Pan fu farw, [25-12-1914] cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn Nhý Rhos, gwasanaeth côrfaol ddwyieithog yn yr eglwys, ac fe’i claddwyd ym Mynwent Penygroes.Captain Titus Evans. Born in Gilfach, Llanychaer [25/12/1834], the son of Henry and Mary Evans. He was a sailor for half a century. On one occasion, the Italian politician, Garibaldi, sailed on his ship. He was a master of many vessels and was shipwrecked twice – on the ‘Crosby’ (31-8-1882) and on the ‘Cid’ (23-6-1891). He retired about 1894. In 1905 he was chairman of Fishguard Parish Council. He also chaired the Fishguard Branch of the RNLI. He was a member, Sunday School teacher and officer at St. Mary’s Church. Politically, he was a Conservative. In retirement he would help keep the cemetery tidy and paint the rail in front of the church. He was a local agent for the ‘Royal Alfred Institution for Merchant Seamen’. When he died, [25-12-1914] there was a Welsh language service at Ty Rhos, a bilingual choral service in the church, and he was buried in Penygroes Cemetery.
Mrs Elizabeth Evans [1836-1921] (nee Thomas) merch i Thomas Thomas ac Ann [Wade] Thomas. Capten llong oedd ei thad. Claddwyd ef yn y fynwent ar Sgwâr Abergwaun ar 9-2-1855 yn 51 oed. Mae ei garreg fedd hefyd yn cofnodi  dau frawd bach i Elizabeth, sef William a David Wade Thomas. Roedd ganddi frawd o’r enw Joseph Thomas hefyd.  Roedd teulu Elizabeth ar ochr ei mam (Wade) yn cynnwys capteniaid llongau hefyd.  Priododd Elizabeth a Titus Evans ar 4-7-1863.Mrs Elizabeth Evans [1836-1921] (nee Thomas) daughter of Thomas Thomas and Ann [Wade] Thomas. Her father was a ship’s captain, and was buried at the cemetery on Fishguard Square. He died on 9-2-1855 at the aged 51. His gravestone also records Elizabeth’s two little brothers, William and David Wade Thomas. She had another brother -Joseph.  Elizabeth’s family on her mother’s (Wade) side also included ship captains. Elizabeth and Titus Evans were married on 4-7-1863.
Thomas Henry Evans [1866-1941] Teithiodd y byd fel arbenigwr ym maes daeareg a’r dull ‘cyanide’ o drin aur. Bu’n gweithio yn Ne Affrica a’r Pwnjab. Gwirfoddolodd ar gyfer gwasanaeth milwrol a bu’n gapten yn y ‘Port Elizabeth Volunteers’. Yn 1892 roedd yn byw yn y Transvaal. Yn 1907 roedd yn archwilio cloddfeydd ‘quarts’ yn India. Roedd ganddo sgiliau marchogaeth a saethu gwych ac fe wirfoddolodd ar gyfer y ‘Rough Riders’ yng Nghalifornia yn 1914.  Mae erthygl ‘County Echo’ yn cofnodi i ‘T H’ dywys bechgyn yr Ysgol Genedlaethol ar daith ddaearegol o gwmpas yr ardal yn dangos nodweddion mwyaf diddorol y creigiau. (gweler post ar wahan)Thomas Henry Evans [1866-1941] He travelled the world as an expert in the field of geology and the ‘cyanide’ approach to gold extraction. He worked in South Africa and the Punjab. He volunteered for military service and was a captain in the ‘Port Elizabeth Volunteers’. In 1892 he was living in the Transvaal. In 1907 he was examining ‘quartz’ mines in India. He had excellent riding and shooting skills and volunteered for the ‘Rough Riders’ in California in 1914. A ‘County Echo’ article records that ‘TH’ guided the boys of Fishguard National School on a geological tour of the area showing features of interest in local rock formations (please see T H Evans Geological tour)
Parchg John T Evans [1869-1940]      Roedd yn offeiriad yn yr eglwys yn Stow on the Wold. Ei wraig gyntaf oedd Isabella a fu farw ar 4-3-1920. Priododd Selina Charlotte Watson wedyn, yn Ebrill 1931 yn Uppingham, Rutland. Roedd yn organydd da, yn awdur ac awdurdod ar lestri eglwysig. Cyhoeddodd nifer fawr o gyfrolau yn disgrifio llestri eglwysig y siroedd ee. Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Penrhyn Gwyr, Aberhonddu ayb. Fe wnaeth ailddarganfod y garreg siglo ar ben Mynydd Llanllawer a thynnu ffotograff cynnar ohonni. Bu farw ar 10 Mai 1940 yn Taunton, Gwlad yr Haf, yn 70 oed.Revd John T Evans [1869-1940] He was a priest at Stow on the Wold church, Glos.  His first wife was Isabella who died on 4-3-1920. He then married Selina Charlotte Watson in April 1931 in Uppingham, Rutland. He was an excellent organist, author and authority on church plate. He published many volumes describing church plate in different counties e.g. Pembrokeshire, Carmarthenshire, Gower, Brecon etc. He rediscovered the rocking stone at the top of Llanllawer Mountain and took an early photograph of it. He died on 10 May 1940 in Taunton, Somerset, at the age of 70.
Parchg Arthur Wade Wade-Evans. [31/8/1875 – 4/1/1964] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd a Choleg yr Iesu, Rhydychen (1893-96) Bu’n ddiacon yn Eglwys Gadeiriol San Paul yn 1898.  Priododd, [12-10- 1899] yn Eglwys S. George, Hanover Square, Llundain, â Florence May Dixon. Ganwyd dwy ferch iddynt, Elizabeth (1900), a Mary Olwen (1905). Buont yn byw yn Ealing, Oakley Square, Paddington Green, Caerdydd, English Bicknor a Welsh Bicknor cyn i Arthur ddod yn ficer ar France Lynch (1909-26). Ymgyrchodd dros ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Bu’n ficer Pottersbury (1926-32), ac yn rheithor Wrabness (1932-57) cyn ymddeol i Frinton-on-sea, Essex. Roedd yn awdur nifer o lyfrau ar hanes Cymru a Phrydain e.e. ‘Life of St David’ [1923],  ‘Coll Prydain'[1950] a gyhoeddwyd gan Wasg Y Brython. Cyhoeddodd erthyglau a llythyron yn Notes and queriesCeltic ReviewY BeirniadGuardianWestern MailSouth Wales News.  Ysgrifennai ar dafodiaith Abergwaun, materion hynafiaethol, a llestri arian eglwysig. Ymchwiliodd i hanes yr eglwys Geltaidd, gan greu rhestr o eglwysi a chapeli Cymru, ac o fucheddau’r saint. Cyhoeddodd nifer o destunau Lladin a Chymraeg ynghyd â chyfieithiadau Saesneg. Roedd yn awdurdod ar emynyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw casgliad o’i lawysgrifau a chyfrolau o’i lyfrgell gyda’i sylwadau ar ymyl y ddalen.Rev. Arthur Wade Wade-Evans. [31/8/1875 – 4/1/1964] Education – Haverfordwest Grammar School, Jesus College, Oxford (1893-96) He was a deacon at St. Paul’s Cathedral in 1898. He married, [12-10- 1899] at St. George’s Church, Hanover Square, London, to Florence May Dixon. Two daughters were born, Elizabeth (1900), and Mary Olwen (1905). They lived in Ealing, Oakley Square, Paddington Green, Cardiff, English Bicknor and Welsh Bicknor before Arthur became vicar of France Lynch (1909-26). He campaigned for the disestablishment of the Church in Wales. He was vicar of Pottersbury (1926-32), and rector of Wrabness (1932-57) before retiring to Brinton-on-sea, Essex. He was the author of several books on the history of Wales and Britain e.g. ‘Life of St David’ [1923], ‘Missing Britain’ [1950] published by Brython Press. He published articles and letters in Celtic Review, The Judge, Guardian, Western Mail, South Wales News.He wrote on the Fishguard dialect, antiquarian matters, and church plate. He researched the history of the Celtic church, compiling a list of Welsh churches and chapels, and of the lives of the saints. He published a number of Latin and Welsh texts as well as English translations. He was an authority on Welsh and English hymnography, and the National Library of Wales holds a collection of his manuscripts and volumes from his library with his comments in the margin.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.