Y Bardd 'Dyfed', Casmael / The Poet 'Dyfed', Puncheston.

Casmael 1985 - dadorchuddio cofeb 'Dyfed' / Puncheston 1985 - unveiling 'Dyfed' memorial
Evan Rees - 'Dyfed'
Dyfed - 'The County Echo' 1985
Cadair Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893 Chicago World Fair Eisteddfod Chair won by Dyfed
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth National Library of Wales
Cofeb Dyfed / Dyfed Memorial

Archdderwydd Cymru / Archdruid of Wales

(please scroll down for English)

Toriad o bapur bro ‘Y Llien Gwyn’ yn dangos seremoni ddadorchuddio yn 1985.

Ganwyd Evan Rees ar 1 Ionawr 1850 yng Nghasmael, Sir Benfro, yn fab i James ac Eunice Rees. Symudodd y teulu i Aberdâr pan oedd yn naw mis oed. Ni chafodd fawr o addysg. Gweithiai yng nglofa Blaengwawr, Aberdâr, yn 8 mlwydd oed. Symudodd i Gaerdydd pan yn 23 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn eglwys Seion (Methodistiaid Calfinaidd), Caerdydd (Pembroke Terrace wedi hynny). Daeth i sylw fel bardd yn gynnar. Enillodd y prif wobrau mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol, e.e. eisteddfodau cenedlaethol Merthyr Tydfil, 1881, ar ‘Cariad’; Lerpwl, 1884, ar ‘Gwilym Hiraethog’; Aberhonddu, 1889, ar ‘Y Beibl Cymraeg’; Merthyr Tydfil eilwaith yn 1901 ar ‘ Y Diwygiwr ‘; eisteddfod gyd-genedlaethol Chicago, 1893, a ‘Iesu o Nazareth.’ Beirniadai bron bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod 40 mlynedd olaf ei fywyd. Gwasnaethodd fel archdderwydd yng Ngorsedd y Beirdd am 21 mlynedd. Enillodd le amlwg fel pregethwr, a gelwid ef i’r prif wyliau ar hyd blynyddoedd anterth ei nerth. Teithiodd ar hyd Ewrop, Affrica, rhannau o Asia, a’r Unol Daleithiau. Enillodd sylw mawr fel darlithiwr a theithiodd y wlad i draethu ar ‘ Beirdd a Barddoniaeth,’ ‘ Islwyn,’ ‘ Ann Griffiths,’ ‘ Pantycelyn,’ ‘ Dros Gyfanfor a Chyfanfyd,’ ‘ Gwlad y Pyramidiau,’ ‘ Gwlad Canaan,’ ‘ Gwlad y Dyn Du.’ Golygodd Y Drysorfa o 1918 hyd 1923. Cyhoeddodd Caniadau DyfedfabGwaith Barddonol Dyfed, dwy gyfrol, Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth, ac Oriau gydag Islwyn. Bu farw 19 Mawrth 1923. Brawd iddo oedd Jonathan Rees.

(Gwybodaeth o – REES, EVAN (‘Dyfed ‘; 1850 – 1923), pregethwr, bardd, ac archdderwydd Cymru | Y Bywgraffiadur Cymreig)

A  cutting from the local Welsh language newspaper ‘ Y Llien Gwyn’ showing the unveiling ceremony in 1985.

Evan Rees was born on 1 January 1850 at Puncheston, a son of James and Eunice Rees. He moved with his parents to Aberdare when but a child and was employed when 8 years of age at Blaen-gwawr colliery. He moved to Cardiff when 23 years of age, and entered the ministry at Seion C.M. church (afterwards Pembroke Terrace), Cardiff. He succeeded as a poet early in life, and was successful in provincial and national eisteddfodau, e.g. Merthyr Tydfil National Eisteddfod, 1881, for an awdl on ‘ Cariad ‘; Liverpool, 1884, for an awdl on Gwilym Hiraethog; Brecon, 1889, for an awdl on ‘ Y Beibl Cymraeg ‘; Merthyr Tydfil, 1901, for an awdl on ‘ Y Diwygiwr ‘; and the International Eisteddfod at Chicago, 1893, for an awdl on ‘ Iesu o Nazareth ‘. He was appointed adjudicator at the National Eisteddfod every year during the last forty years of his life, and was Archdruid for twenty-one years. He travelled extensively in Europe, South Africa, parts of Asia, and North America, and became renowned as a lecturer. He was editor of ”Y Drysorfa’, 1918-23. He published ‘Caniadau Dyfedfab’, ‘Gwaith Barddonol Dyfed’, ‘Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth’, ‘Oriau gydag Islwyn’. He died 19 March 1923. Jonathan Rees was his brother.

(Information from – REES, EVAN (Dyfed; 1850 – 1923), Calvinistic Methodist minister, poet, and archdruid of Wales | Dictionary of Welsh Biography)

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.