James Howell 1835 -1909

Cyfrifiad / census 1841
Cyfrifiad / census 1851
Grove House
Trist yw gweld siop ‘Howells’ Caerdydd yn cau gan mai Cymro o’r ardal hon a wnaeth sefydlu’r busnes. Y mae cofnod cyfrifiad 1841 ac 1851 yn dangos James Howells ifanc yn dechrau ei daith bywyd.

Roedd yn fab i Thomas a Lydia Howells ac yn un o 6 o frodyr a chwiorydd yn Fferm Clyn, rhwng Llanychaer a Phontfaen yn 1841.

Erbyn 1851, yn 15 oed, roedd yn ‘siopwr’ mewn siop ddillad yn Ballock Street yn Abergwaun.

Priododd Fanny Login o Little Haven (1838-99) tua 1863.

Bu iddo ef a’i wraig lawer o blant — [ Thomas, a anwyd ym Middlesex, 1864, Minnie (1866), Lilian (1868), James (1871), Fanny Gwendoline & Mabel Florence (1872), Fanny Logan (1873), Mabel Elizabeth (1875), John (1876), Mary Gwendoline (1878), Harold (1879), Arthur (1882), Frederick (1883) – oll wedi eu geni yng Nghaerdydd.]

Adeiladwyd siop adrannol fawr ar Heol yr Eglwys Fair yng Nghaerdydd, ym 1865. Fe’i prynwyd gan y grŵp House of Fraser yn 1972 a’i hail-frandio’n House of Fraser yn 2010.

Cynlluniwyd cartref y teulu Howells ym 1896 gan y penseiri Habershon & Fawckner. Yr enw gwreiddiol arno oedd ‘Grove House’. Fe’i gwerthwyd gan y teulu i Gorfforaeth Caerdydd ym 1913 ac fe’i defnyddiwyd tan 1971 fel cartref swyddogol Arglwydd Faer Caerdydd. Yn 2002 rhoddwyd statws rhestredig Gradd II iddo.

Mae’r tŷ yn dal i sefyll ar Richmond Road, Y Rhâth, ac yn cael ei adnabod fel ‘Y Plastý’.

It is sad to see the ‘Howells’ department store at Cardiff closing, as it was a Welshman from this area who set up the business. The census records from 1841 and 1851 show the young James Howell starting his life’s journey.

He was the son of Thomas and Lydia Howell and was one of 6 siblings at Clyn Farm, between Llanychaer and Pontfaen in 1841.

By 1851, aged 15, he was a ‘shopman’ at a drapery in Ballock Street in Fishguard.

He married Fanny Login of Little Haven (1838-99) around 1863.

He and his wife had many children – [ Thomas born in Middlesex, 1864, Minnie (1866), Lilian (1868), James (1871), Fanny Gwendoline & Mabel Florence (1872), Fanny Logan (1873), Mabel Elizabeth(1875), John (1876), Mary Gwendoline (1878), Harold (1879), Arthur (1882), Frederick (1883) – all born at Cardiff.]

A large department store was built on St Mary Street in Cardiff, in 1865. It was acquired by the House of Fraser group in 1972 and re-branded as House of Fraser in 2010.

The Howell’s family home was designed in 1896 by the architects Habershon & Fawckner. It was originally called ‘Grove House’. It was sold by the family to the Cardiff Corporation in 1913 and was used until 1971 as the Lord Mayor of Cardiff’s official residence. In 2002 it was given Grade II listed status.

The house still stands on Richmond Road, Roath, and is known as ‘Y Plastý’ (Mansion House).

see also      James Howell of Cardiff (and Llanychaer!)

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.