Stori dau feic / A tale of two bikes (1)

Beic D J Williams' bike.
Mrs Elaine Richards
Erthygl o'r County Echo article.
Mrs Elaine Richards
Stampiau a argraffwyd i gofio D J / Commemorative stamps featuring DJ.
Mrs Elaine Richards
County Echo 1921. Ai Bowen & Jenkins oedd perchnogion y garej cyn dyddie Mr Hughie Thomas? / Were Bowen & Jenkins the proprietors of the garage before Mr Hughie Thomas?
Yr wythnos hon (21-3-23) y mae arddangosfa  newydd yn ymddangos yn ffenestri Canolfan  ‘Ein Hanes’ Abergwaun. Mae beic hanesyddol yn mynd i ymddangos yn y ddwy ffenest. Y mae’r disgrifiad hwn yn egluro hanes beic D J Williams a bydd ‘Stori dau feic (2)’ yn egluro hanes beic Frederic G Palmer.

Roedd y beic hwn yn eiddo i DJ Williams pan oedd yn byw yn y Bristol Trader ym Mhenucha’r Dre. (Heddiw gelwir y tŷ yn The Old Pump House.) Er ei fod yn feistr Saesneg yn Ysgol Sirol Abergwaun, roedd DJ yn ffigwr llenyddol uchel ei barch o arwyddocâd cenedlaethol.
Ni ddysgodd DJ i yrru car, ac eto, roedd yn beicio’n gyson i bob cyfeiriad – yn enwedig ar y Sul, pan fyddai’n pregethu mewn nifer o gapeli Sir Benfro.  Ar un achlysur, ar ôl aros ychydig yn hwyrach na’r disgwyl yn Nhyddewi, yn dilyn y gwasanaeth hwyrol, cafodd DJ ei stopio gan blismon ger Mathri. Cafodd ddirwy am feicio heb olau ar ôl iddi nosi – tipyn o staen ar gymeriad dyn! Gnaeth cefnder i DJ, (a oedd ei hun yn weinidog), dynnu ei goes yn ddiweddarach, gan ddweud y gallai embaras y digwyddiad fod wedi achosi i DJ barhau fel athro yn hytrach nag ymuno â’r weinidogaeth. Pwy sy’n gwybod.

Roedd yn arferiad gan DJ i ymweld â Mr Hughie Thomas, perchennog y Central Garage ym Mhenucha’r Dre, pryd bynnag yr oedd angen sylw ar y beic. Yma, o bosibl wrth roi aer yn y teiars, y dechreuodd DJ siarad â Lynn Davies, bachgen o Abergwaun. Soniodd DJ ei fod am gael beic newydd. Cynigiodd yr hen feic i Lynn.

Am flynyddoedd lawer bu Lynn (a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘LT’) yn defnyddio’r beic tra’n byw yn Wdig , gan fagu ei deulu yno. Bu’n gweithio yn RNAD Trecwn nes i’r safle  gau yn 1995. Ar ôl iddo ymddeol, cadwodd Lynn yn brysur yn y gymuned, gan wneud gwaith garddio i drigolion hŷn. Byddai’n beicio i’r rhan fwyaf o lefydd a byddai’r  beic i’w weld yn aml yn pwyso yn erbyn waliau gerddi, neu y tu allan i dai pobl tra’r oedd yn gweithio. Yn hwyrach yn y dydd, gyda thwls neu strimiwr wedi ei glymu i’r croesfar, byddai’r beic yn aros yn amyneddgar tu allan i un o’r tafarndai tra byddai ‘LT’ yn mwynhau peint.

Bu farw DJ yn 1970. Bu farw Lynn yn 2017, ac mae’r beic bellach yn perthyn i ferch Lynn, Elaine. Rydym yn ffodus ei bod hi wedi rhannu’r stori.

This week (21-3-23) new window displays are a feature at Fishguard’s ‘Ein Hanes – Our History’ Heritage Centre. An historic bike is to be seen in both windows. This post explains the history of D J Williams’ bicycle and ‘A tale of two bikes (2)’  will give the history of Frederic G Palmer’s bicycle.

This bike was owned by DJ Williams when he lived at the Bristol Trader in High St. (Today the house is called The Old Pump House.) Although he was an English master at Fishguard County School, DJ was a highly respected literary figure of national significance, and a household name.

DJ never learned to drive a car, and yet, he constantly cycled in all directions – especially on Sundays, when he preached in a number of Pembrokeshire chapels. On one occasion, after staying a little later than expected in St Davids following the evening service, DJ was stopped by a policeman near Mathri. He was fined for cycling without a light after dark – quite a stain on his character! DJ’s cousin, (who was himself a minister), later joked that the embarrassment of the incident may have caused DJ to continue as a teacher rather than join the ministry. Who knows.

It was DJ’s habit to visit Mr Hughie Thomas, owner of the Central Garage in High Street, whenever the bike needed attention. It was here, possibly while putting air in the tyres, that DJ started talking to Lynn Davies, a lad from Fishguard. DJ mentioned that he wanted a new bike. He offered the old bike to Lynn.

For many years Lynn (also known as ‘LT’) used the bike while living in Goodwick, raising his family there. He worked at RNAD Trecwn until it closed in 1995. During  retirement, Lynn kept busy in the community, doing gardening work for older residents. He would cycle to most places and his bike would often be seen leaning against garden walls, or outside people’s houses while he was working. Later in the day, with tools or a strimmer tied to the crossbar, the bike would wait patiently outside one of the pubs while ‘LT’ enjoyed a pint.

DJ died in 1970. Lynn passed away in 2017, and the bike now belongs to Lynn’s daughter, Elaine. We are fortunate that she has shared the story.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.