History in stitches / Hanes mewn pwythau.

Yr oedd Mrs Francis yn cefnogi cystadleuthau crefft Sioe Abergwsun ac yn ennill yn aml iawn / Mrs Francis regularly supported the craft competitions at Fishguard show and was often very successful
Un enghraifft o waith pwytho Mrs Mattie Francis sydd yng Nghapel y Tabernacl, Abergwaun/ One example of Mrs Francis' stitching skills which can be viewed at Tabernacle Chapel, Fishguard.
Capel Hermon mewn pwythau / Hermon Chapel in stitches.
Mr & Mrs Francis adeg ymddeoliad Clifford / at the time of Clifford's retirement 1985.
Llun cyfan Capel Hermon yn cynnwys emyn dôn 'Calon Lân'. / The complete Hermon Chapel picture, including the hymn tune 'Calon Lân'.
Mrs Mattie Francis was an an industrious and clever lady. She was always busy, planning her next project. Evidence of her work is apparent in many chapels. She loved working with needle and thread. She would win craft competitions at the agricultural shows annually. She presented examples of her work to a large number of good causes and they are an important record of a period in time when the town’s assets were more valued, and civic pride was more important to the people of the area.

Mattie and her husband Clifford both worked for the G.P.O. In 1985, Clifford retired having worked ‘on the post’ for 46 years.  He saw action in Africa and Italy during WW2 before returning to France for D-Day. Though they lived in Dinas originally, they moved to Llwynon, Vergam Terrace later. Clifford would do all the necessary mounting and framing required for Mattie’s embroidered pictures.

They married in 1947 on the same day as the ‘Derby’ at Epsom. Clifford placed a bet on a horse called ‘My Love’ – and she won!

On occasion, Mrs Francis would present an exhibition of her embroidery pictures in the windows of the Principality Building Society in West Street. They were much admired.

We Mrs Mattie Francis yn fenyw weithgar, glew. Wêdd hi’n fishi byth a hefyd. Mae tystiolaeth o’i gwaith hi yn amlwg mewn sawl capel.. Wêdd hi wrth ei bodd gyda nedwi ac edau yn pwytho. Fe fyddai’r ennill yn flynyddol mewn cystadleuthau crefft y sioeau amaeth. Cyflwynodd roddion o’i gwaith i nifer fawr o achosion da ac maent yn gyfnod pwysig o gyfnod pan oedd sglein ar bethau, a’r ‘Pethau’ yn bwysig i bobol yr ardal.

 

Roedd Mattie a’i gŵr Clifford ill dau yn gweithio i’r G.P.O. Ym 1985, ymddeolodd Clifford ar ôl gweithio ‘ar y post’ am 46 mlynedd. Bu’n ymladd yn Affrica a’r Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn dychwelyd i Ffrainc ar gyfer ‘D-Day’. Er eu bod yn byw yn Dinas yn wreiddiol, symudasant i Llwynon, Y Byrgam yn ddiweddarach. Byddai Clifford yn gwneud yr holl waith mowntio a fframio angenrheidiol ar gyfer lluniau Mattie.

Priodasant yn 1947 ar yr un diwrnod â’r ‘Derby’ yn Epsom. Rhoddodd Clifford fet ar geffyl o’r enw ‘My Love’ – a hi enillodd!

Yn achlysurol, byddai Mrs Francis yn cyflwyno arddangosfa o’i gwaith pwytho yn ffenestri Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn Stryd y Wesh. Byddent yn cael eu hedmygu’n fawr.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.