Home Guard 1945

Mr Jack James a'i wraig Rose a fu'n ffermio Caerau, Cwmcanol, Dinas / Mr Jack James and his wife Rose who farmed at Caerau, Cwmcanol, Dinas Cross.
Mr & Mrs Rh Harries
Here is a bilingual poem written by Mr W D Harries of Hillsbro, Dinas Cross in 1945. Verses 17 – 20 are in English.

The village had a Section of 23 members who are named in this poem. Many were farmers and the picture above is a typical scene of life at the village during the 1940s.

Dyma gerdd ddwyieithog a sgrifenwyd gan W D Harries o Hillsbro’, Y Dinas yn 1945.

Enwir 23 o aelodau’r Home Guard yn y pentre gan egluro am y trafferthion  cafwyd wrth ddilladi, arfogi a hyfforddi y dynion. Uchod mae llun o weithgarwch cyffredin iawn yn yr ardal yn ystod yr 1940au.

 

BOIS YR HOME GUARD

1) Pan glywodd Bois y Dinas
Bod Hitler am eu gwlad,
Fe’u gwelwyd ôll yn uno
 Byddin yr Home Guard.
Fe gerddon am flynydde
Gan ddioddef llawer nam
O’r mynydd i Gwmyreglwys
A lan am Penyfan.

2) Doedd ganddynt hwy ddim arfau
Am amser maith, mi wn,
Dim ond rhyw ‘armlet’ fechan
Ac “L.D.V.” ar hwn.
A phan ar noson arw,
A phawb â’i draed yn wlyb,
Yn methu cynnau matshen
Er mwyn cael tano pîb.

3) Ond gwella wnaeth mewn tipyn,
Fe gafwyd cotie mowr
Yn iawn i fois ‘six-footers’
I’r rhest, yn llusgo’r llawr!
Ar ôl hyn, cafwyd sgidie
Rhyw bedwar seis rhy fowr
Fe’u gwisgais hwy rhyw deirgwaith
Maent adre ‘da fi nawr.

4) Ymhen peth amser wedyn
Fe ddaeth y ‘Battledress’,
Pob size i gyd trwy gilydd
Yn wir, na beth oedd mess.
Pan oedd rhain ffitio’r trowser
Roedd rhai yn trio’r blows,
A rhai y dysgu martsio
O’r ysgol i Kiel House.

5) Roedd ambell Sergeant Major
Yn meddwl torri dash
Yn tyngu ac yn rhegi
A dragio ei fwstash.
Wrth weld y Bois yn martsio
Fe elai mâs o’i gô’
A dweud wrth un o’r bechgyn
Ei fod mor dwp a llô.

6) Fe waeddai mâs fel tarw
“In ranks of three, fall in”.
“Right dress!” a waeddai wedyn
“Eyes front and stand quite still!”
“Right turn!” a waeddodd wedyn
Mi gofia hynny byth
Fe droiodd rhai i’r dehau
Ac eraill aeth i’r chwith.

7) Ond ar ôl lot o bractis
Fe ddaeth y Bois yn well
I gael eu tebyg heddi
Yn wir, rhaid mynd ymhell.
Mae rhai yn Full Lieutenants
Ac ambell Sergeant sydd
A nifer o Lance Corporals
Eu gwell eriôd ni fydd.

8) Dewisodd rhai gâl Rifle
Ac eraill fynnodd Sten
Ond gwell gan rhai Fachine Gun
I achub “Gwalia Wen”.
‘Roedd rhai at daflu Bomie
A phob math o Grenade
A rhai at fynd â’r cleifion
Gael chips a lemonêd.

9) I ni rhyw dri-ar-hugain
O fechgyn o bob math
Ma’ rhai yn fyr ddychrynllyd
A rhai sydd dros ddwy llath.
Pan fyddwn ni yn martsio
Edrychwn yn reit dda
Roedd ofon ar hen Hitler
I fentro glanio ‘ma!

10) Pe bai e wedi glanio
O’r môr, ynte, o’r â’r,
Fe fuse Bois y Dinas
Yn siwr o neud eu siâr.
Pe cawsen ni yr ordor
I’r “Section” i droi mâs,
Bydd rhai’n dod o Gilwenen
A rhai’n dod o Cruglas.

11) Ein ‘boss’ ni gyd yw’r Major,
Yn Trefdraeth mae yn byw
Mae’n ddyn da anghyffredin
Yn parchu Dyn a Duw.
Mae e o hyd yn hapus
Dim byth yn cadw gwg.
Y sawl wedo’n fach amdano,
Mae’n wâth na’r Ysbryd Drwg.

12) George Owen o Bryn Cottage
Wil Thomas hefyd ddaw,
A Joe o Brynawelon
Â’i Rifle yn ei law.
O’r pentre y daw Cuthbert
‘Da Ifor yn y car,
A hwnnw fydd yn hedfan
Ar hyd yr heol dar.

13) Bydd Sergeant Major Williams
Yn galw yn Garnwen
Bydd Cecil yno’n barod
Â’i helmed ar ei ben.
Bydd Ronald yn Rhoshelyg
Yn anfon signals mâs
Ac ateb y rhai hynny
Bydd Sergeant John, Parcglas.

14) Mor gynted caiff e’r neges
Fe’i gwelir ynte off
I alw Sergeant Morgan
Ac hefyd Howard Gough.
Bydd ynte, James Cwmdewi
Yn wir bron colli ei wynt,
Wrth dreio cael Jim Davies
I ddyfod lan ynghyd.

15) Bydd Llewellyn o Bryn Terrace
Y  galw heibio Len,
Bydd hwnnw bron yn wallgof
Yn methu ffeindio’i Sten.
Cyn hir, fe welir Islwyn
A hefyd Corporal John
A Hugh a Tomi Wilson
A Wili’n dod o’r Fron.

16) Bydd Glyn John o Drewreiddig
Yn dod ar hanner trot
A dweud wrth Ernest Harries
I beido dod heb got.
Bydd Eddie Young, Rhiwelli
Yn dod mewn Austin 7
Â’i Rifle yn disgleirio
Â’i rations ar ei gefn.

17) Lieutenant Vinall ynte
Yn dod ‘da Stephen Clack
“To lead the Dinas Section
And drive old Jerry back.
And under such a leader,
I’m sure you will agree
We’d fight him on the mountains
The fields, the roads, the sea.

18) When Winston Churchill mentioned
How tough the fight would be,
And that we would oppose him
On land, in air and sea,
He must have felt downhearted
To face such boys as we,
And thought we must be thousands
Instead of twenty three.

19) ‘Twas then he turned for Russia
And made his big mistake
Before the Russians checked him
He many a town did take.
That saved our situation
For when he fought out there
The Home Guard men of England
Were ready everywhere.

20) And after months of waiting
We now all wear a frown.
When the King made his announcement
That the Home Guard were stood down!
We handed in our weapons
But kept our Battledress
In case the Hun decided
To start again a mess.”

21)Rhaid i mi nawr derfynnu
Mae’n Sisneg i ar ben
Ond diolch wyf i’r Nefoedd
Am achub Gwalia Wen.
A chofiwch oll i ddiolch
I Dduw am gadw’n  gwlad
Trwy ymdrech ddewr ein milwyr
A chymorth yr Home Guard.

22)A phan ddaw heddwch eto
A thangnef trwy’r holl wlad
A’r bechgyn oll i ddychwel
Rôl concro Trais a Brâd
A Heddwch fel yr Afon
O Fôr hyd Fôr a fydd
A phawb  mewn gwir dangnefedd
Mewn gwlad o Fythol Ddydd.

 

 

 

 

 

 

Comments about this page

  • Wow! That was some poem.
    What a bilingual talent Mr W D Harries possessed.
    These are the type/assembly of words that are put together as a true reflection of those times.
    And are never forgotten.

    By RJL Roberts (17/06/2023)

Add a comment about this page

Your email address will not be published.