Storm Fawr 1847 Great Storm

Llongddrylliad yn Wdig tua 1907 / Goodwick shipwreck c. 1907
Casgliad Ein Hanes / Ein Hanes Collection

(Please scroll down for English)

Ym mhapur newydd y County Echo ar 21-11-1907, ymddangosodd y geiriau canlynol –

Mae Cadben W. James, Gwaun Lodge, Abergwaun, yn garedig iawn, wedi danfon i ni gopi o’r farddoniaeth (os priodol yw ei galw felly) a gyfansoddwyd ar adeg ystorm enbyd yn mis Rhagfyr 1847, yr hon a fu’n achos i amryw longau a bywydau i gael eu colii tu allan i borthladd Abergwaun.

Fe ymddangosodd rai o’r penillion yn ein colofnau ryw ddwy flynedd yn ôl, ond mae yn debyg nad oedd y rhai hynny yn hollol gywir. Y penillion hyn, mae’n debyg, ydynt y rhai gwreiddiol:

Y Cymry mwynion, ddowch chwi i wrando
Ar fy hanes pan yn morio,
Fel yr aethum oddi gartre
A thros y bar hwyliasom ninne.
At Ynys Enlli yr oem ni yn hwylio
A’r gwynt yn deg y noswaith honno,
Ond cyn y boreu daeth i’n herbyn
Awel drom o’r de orllewin.

Ond i’r de hwyliasom wedyn,
Er fod y gwynt yn groes i’n herbyn,
Ag Abergwaen fe ddarfun fetchio,
A da iawn cael gafael arno.
Ond mhen ychydig o ddyrnodau
Daeth yno lawer iawn o longau,
Rhai o schooners, rhai o frigia
A phawb yn treio am yr angorfa.

Ar foreu Mercher o fis Rhagfyr
Yr oedd y llongwyr yn bur brysur
Yn paratoi eu hangorau tryma
Eu rhoddi i lawr i ddal y llonga’.
Ond cyn y nos-yr wy’ am enwi
Faint o longau oedd eu cyfri,
Sef pedair brig i chwi mi ddyweda
A phumtheg eraill yn yr angorfa.

Ond yn y nos, daeth i chwythu,
Nes oedd y môr a’r tonnau’n codi,
Ag yn y boreu nid oedd i weled
Ond unarddeg o’r llestri glandeg.
Ond efo’r dydd pan y goleuodd
Tristwch mawr yn wir am llanwodd
Pan i mi weled wyth o longa’
Wedi colli o’r anghorfa.

Ond am y llongau wy’am enwi-
Y Catherine, schooner Captain Parry,
Hwy soddasant yn yr eigion,
Chwech o’r dwylaw a foddasont.
Daeth schooner arall o’r angorfa,
Ag enw hono ydoedd Martha,
Ond er mae dyna oedd ei henw
Trafferthus iawn oedd hi’r pryd’ hwnw.

Ond Duw a ddarfu’r noswaith honno
Ddangos pwy a allasai safio,
Chwech i gyd o grew oedd ynddi,
A thri gadd fyw a thri fu foddi.
Am long arall oedd yn y cyfri—
Y brig Alert sydd raid im enwi,
Aeth hon yn ddrylliau ar y creigiau,
Ag un o’i chrew a ga’dd ddihangfa.

0, gwelwch ryfedd waith yr Arglwydd,
Yn y môr ag ar y creigydd,
A doro dithau dy hunan Iddo,
Mae yn ddigon gwir nad oes unman hebddo.
Mi yrodd un arall yn ein cwmni,
Y brig Erin o Aberteifi,
A Captain Morgans wrth ei enw
Oedd ei llywydd hi’r pryd hwnmw.

Ag i’r lan fe aeth y Hester
Yn ddarnau mân mhen ychydig amser,
Ond chwech o grew oedd ynddi’n gryno
Ac yn eu cwch fe ddarfunt safio.
Yr oedd schooner arall yno yn ridio,
Sir Perigran oedd enw hono,
Gan mor gryfed oedd yr awel
I’r lan y daeth a’r dwr yn isel.

Ond pan dechreuodd y dwr godi
Y llong a ddarfu yno hollti
A’r dwr a’i llanwodd hyd yr ymyle
Nes gorfu’r crew fyn’d i’r hwylbrenne.
Ond Duw a ddarfu yn y fan yma
Ddangos trefn ei rhagluniaetha’,
Cadw’r crew yn fyw heb foddi
Er fod y môr yn golchi fyny.

Ond Captain Evans a’i grew ffyddlon
A aethant allan yn ddiofon
I hel y bobol o’r hwylbrenau
Yn fyw i’r lan y dowd a hwythau.
Y mae hi’n amlwg i weld yma
Mae Duw sy’n cadw ar frigau’r tonnau
A hyn rwy’n deisyf i ti wrando—
Am rhoi dy hun yn gwbwl Iddo.

Ond am un arall oedd yno yn reidio,
Sef Margaret—sloop a ddarfu strandio,
A Capt Hughes a’i grew mewn order
Yn dod i’r lan i drwyn Manifor.
Ag un arall ddarfu strandio
Yn gynnar iawn y noswaith hono,
A’r llester hon oedd y brig Charlott
A aeth i’r lan i draeth Pwllgwaelod.

A’r schooner Union aeth i Pwllgwaelod
Yn fuan iawn ar ôl y Charlott,
Er mae dieithriaid oedd y dwylaw
Eu bywyd gawsant y fan yma.
Wel dyna i chwi enwau’r llongau
A ddarfu strandio o’r angorfa,
Ond am y lleill i gyd yn gryno,
Sef unarddeg a ddarfunt reidio.

Rhwng saith ag wyth o’r gloch y boreu
Dechreua’r llongau godi hwyliau,
Y rhai a ddaliodd y nos trwy’r storom,
I’r lan i gyd yn fyw y daethom.
Y mae’n rhaid i mi enwi’r llongau
A ddaeth i mewn i’r aber yma,
Sef y New Hope a ddaeth yno,
Nes gaeth y Brothers yno’i darnio,

Ag un arall wyf am enwi-
Captain James, y John and Mary,
A’r Mary Ann a ddaeth dan hwylia
Yn saff i mewn i’r aber yma.
Captain Prichard, smack Athalia,
A’r brig Thomas a ddaent yma,
A’r Lady Newbrough sydd raid im enwi,
A’r Margaret James o Aberteifi.

Daeth schooner arall i’r aber yma,
Ag enw hon oedd Anliatiala,
Ag un arall sydd raid im enwi,
Y President, wel dyna’r cyfri.
Ond Duw a ddarfu yn Ei rhagluniaeth
Gadw rheiny i gyd yr hynod noswaith.
Coflwch chwithe, fy mrodyr cryno
Am rhoi eich hun yn ufudd Iddo.

Os gofyn neb o’r Cymry mwynion
Pwy wnaeth hyn yma o benillion,
Attebaf finnau yn lled gryno
Mod i yn yr angorfa’r noswaith hono.
Wel, Richard Jones yw fy enw,
Ag yn y gobaith ‘rown i’r pryd hwnw,
Ac yn ofni cyn y boreu
Yr aem yn ddrylliau ar y creigiau.”


In the County Echo newspaper on 21-11-1907, the following words appeared in Welsh – “Capten W. James, Gwaun Lodge, Fishguard, has very kindly sent us a copy of a poem (if it is appropriate to call it that) composed at the time of a severe storm in December 1847, which resulted in several ships and lives being lost outside the port of Fishguard.

Some of the verses appeared in our columns about two years ago, but apparently those were not entirely correct. These verses are probably the original ones”.

What follows is a lengthy but fact filled account of the ships at Fishguard on the night of the storm. Here are the details revealed.

On the morning of the storm, four brigs and fifteen other vessels were anchored at Fishguard. By the next morning, eight were lost.

The schooner, Catherine, under the command of Captain Parry. Six crew drowned.

The schooner, Martha, of which three crew members survived, but three others were lost.

The brig Alert was driven on to the rocks, just one of her crew surviving.

The brig Erin of Cardigan was lost, her master being Captain Morgans.

The Hester was wrecked, but her six crew escaped in the lifeboat. Wreckage from the Hester littered the beach following the storm.

The schooner Sir Perigran was driven on the sand but with the ferocity of the tides, she broke her beam and the seawater flooded her so that the crew had to take to the masts for safety. The lifeboat, under the command of Captain Evans and his crew was able to save them.

A sloop, Margaret, under the command of Captain Hughes was stranded at Manifor point.

A brig, Charlotte, and a schooner, Union, were both stranded at Pwllgwaelod.

Eleven vessels were spared during the storm and continued to shelter the next morning, among these being –  The New Hope; The Brothers;  Captain James’ John and Mary; The Mary Ann; Captain Prichard’s smack Athalia; the brig Thomas; The Lady Newbrough; Margaret James of Cardigan; the schooner The  Anliatiala and  the President, 

The poet identifies himself as Richard Jones, a mariner on board one of the vessels mentioned. As such, he claims his right to record all that happened during the storm. Detail in the first verse suggests that he was a Caernarfon sailor. (He mentions crossing the bar and making for Bardsey before sailing south).

 

 

 

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.