Dan Davies - bardd / poet

Y Parch / The Revd Dan Davies
Morawel - cartref i Parchg Dan Davies, wedi ei adeiladu yn newydd sbon yn 1901 / The new manse - 'Morawel' which was completed in 1901 at the top of High Street.
Cerdd gan y Parchg Dan Davies am ei fam (gweler isod am gopi mewn print)/ A poem by Rev'd Dan Davies about his mother (see below for a typed copy)
Diolch i Mr Johnnie Morris a Mr Carey John

This is a bilingual post. Please scroll down for English.

Yr oedd y Parch Davies ymhlith y gweinidogion mwyaf dylanwadol yn yr ardal hon yn amser y Diwygiad. Ef oedd y gweinidog mwyaf arwyddocaol yn Hermon, gan wasanaethu am 35 mlynedd o 1899 i 1934.

Ganed ef yng Llanfyrnach, Gogledd Sir Benfro yn 1853, ac ni phriododd erioed. Yn 1861, yr oedd ei fam yn weddw, 46 oed, yn magu 4 plentyn ‘ar y plwyf’ yn ‘Portis’, Llanfyrnach. Roedd Dan yn 8 oed.

Symudodd y teulu i fyw yn Aberdâr, Morgannwg pan oedd Dan dal yn ifanc, a phregethodd am y tro cyntaf yn Ynyslwyd. Hyfforddodd yng Ngholeg Pont-y-pŵl o 1877-1879 ac ordeiniwyd ef ym Mhenuel ym Mangor, gogledd Cymru.

Tra yn gwasanaethu yno daeth yn adnabyddus fel pregethwr trwy Gymru. Yn 1890 galwyd ef i Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg, Salem, Porth, Morgannwg, lle y plannodd ddwy eglwys arall: Bedyddiwr Cymraeg Pisgah yn y Cymer a Bedyddwyr Saesneg Seion yn Porth. Galwyd ef i Hermon, Abergwaun yn 1899, ac fe arhosodd am 35 mlynedd. Dywed ei ysgrif goffa yn Llawlyfr y Bedyddwyr, 1943:

‘Yr oedd ganddo bersonoliaeth a oedd yn ennyn parch ac edmygedd, ac yr oedd yn annwyl gan bawb. Yr oedd ganddo’r gras i ddynesu’n rhwydd at bob math o gymeriadau, ac y mae ei gariad at blant, ei ffraethineb parod a’i hiwmor yn ddiarhebol.’

Bedyddiodd dros 2,000 o bobl i’r Eglwys yn gyfan gwbl, gan fedyddio dros 750  yn Abergwaun, 94 o ymgeiswyr mewn un diwrnod yn Ionawr 1905. Cododd aelodaeth y capel I 748, (er iddo ryddhau aelodau ddwywaith i gynnal dwy eglwys newydd). Bu farw y Parchg Dan yn 1942, yn 89 mlwydd oed.

Er na phriododd ei hunan, yr oedd yn  cyfri teulu yn bwysig. Yng ngyfrifiad 1911 ac hefyd 1921, gwelir mai dwy nith iddo sy’n byw ym Morawel fel ‘housekeepers’.  Mae’r gerdd i’w fam yn edrych yn ôl i’w blentyndod ac yn deyrnged i aberth Ann Davies yn magu ei phlant.


The Rev’d Dan Davies was among  the most influential ministers of religion in this area at the time of the Revival. He was the most significant minster at Hermon,  serving for 35 years from 1899 to 1934.

He was born in Llanfyrnach, North Pembrokeshire in 1853, and never married. In 1861, his mother was a widow, aged 46, raising 4 children ‘on the parish’ in ‘Portis’, Llanfyrnach. Dan was 8 years old.

The family moved to live in Aberdare, Glamorgan when Dan was still young, and he preached for the first time at Ynyslwyd.  He trained at Pontypool college from 1877- 1879 And was ordained at Penuel in Bangor, N Wales.  While serving here he became well known as a preacher throught Wales. In 1890 he was called to Salem Welsh Baptist Church, Porth, Glamorgan, where he planted two other churches: Pisgah Welsh Baptist in Cymmer and Seion English Baptist in Porth. He was called to Hermon, Fishguard in 1899, staying for 35 years. His obituary in the Baptist Handbook, 1943 says:

‘He possessed a personality which commanded respect and admiration, and he was beloved by all. He had the grace to approach with ease all types of characters, and his love for children, his ready wit and humour are proverbial.’

He baptised over 2,000 people into the Church altogether, baptising over 750  at Fishguard, 94 candidates in one day in January 1905. Membership of the chapel reached 748, (in spite of twice releasing members to support two new churches). Rev Dan died in 1942, at Môr Awel, High Street, aged 89 years.

Although he did not marry himself, he considered family important. In the 1911 and also 1921 census, it is seen that two of his nieces live in Morawel as ‘housekeepers’. The poem looks back to his childhood and is a tribute to Ann Davies’ sacrifice in raising her 10 children. She lived into her 80s.


Rwy’n cofio mam yn canu
Yn bedwar ugain oed
Wrth ddyrwyn ‘dafedd gyda’i llaw
A’r amser gyda’i throed.
Yn araf, ddirwyn, – dirwyn
Yn gyson gyda’r haul
Y gân sy’n d’rysu weithiau
Â’r dafedd bob yn ail.

Roedd hi yn brysur wrthi
Yn canu yn y tý
Heb feddwl fawr fod un o’i phlant
Yn gwrando arni hi
Y gân a’r dafe’n brwydro
I ennill parch a bri,-
Mi ddaliodd hi i ganu
Ond wylo oeddwn i.

Roedd mam yn gallu canu
Yn swynol, bore’i hoes.
Yng ngwres y cariad cyntaf, cryf
I’r Hwn fu ar y Groes.
Daeth deg o blant i bwyso
Ar gefn fy Mam – i’r gad
A’r iengaf heb ei eni
Pan gollasom ni ein tad.

Yn ing yr ymdrech galed
I fagu’r oll o’r plant
Y d’rysodd bysedd hoff fy mam
I fethu taro’r tant.
Ei hysbryd hi oedd barod
Ar lanw ac ar drai
Ar ‘ddafedd ac ar henaint
Yn unig oedd y bai.

Mae mam yn ifanc heddiw
A gwynfyd lond ei chôl
A’r henaint a’r blinderau fyrdd
A’r dafedd oll ar ôl;
Chwaraea danau’i thelyn
I’r Gwr gadd farwol glwy,
Hen ofni colli’r nefoedd
Na’r gân ddyrysu mwy.

Dan Davies, Môr Awel, Abergwaun.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.