Lloches Bws 'Yet-y-bontpren' bus shelter

Yetybontpren 1955
Sheila Harries

Chwith i’r dde/ Left to right

1 – Elwyn Williams
2 – Glyn Harries
3 –  Norman Thomas
4- Theophilus (Offi) Harries
5- Bill Harries
6 -Tom Mabe
7 – Ezec Williams
8 – Tom Battin
9 – Dai Nicholas
10 – Jim Rowlands

Adeiladwyd y lloches bws yn Ietybontpren gan griw o ddynion lleol yn 1955 ac am flynyddoedd lawer bu’n lloches i deithwyr bws rhag gwynt a glaw Dinas. Yn anffodus, nid yw’n sefyll bellach – codwyd lloches modern o bersbecs yn y blynyddoedd diweddar.

Mae pawb a fu’n ymwneud ag adeiladu’r lloches yn y llun.

The bus shelter at Yetybontpren (literally – gate of the wooden bridge) was built by a group of local men in 1955 and for many years provided a shelter for bus travellers from the winds and rain of Dinas.  Sadly it is no more – a modern perspex version has in recent years replaced it.

All those involved in the building of the project lined up for a photo.

Cerdd am adeiladu’r lloches bws gan / A poem by – Mr Bill Harries, Hillsbro, Dinas.

(English translation below)

1) Wel, dyma’r shelter cyntaf
Sy’ wedi codi yn y Plwy,
Lle bu bois yn gweithio
Yn galed hyd yr hwyr.

2) Bob un yn ddyfal wrthi
Dim un a gair ar fas,
Bob un  oedd ar ei oreu
I wneud y lle fel plas.

3) Ezec Williams oedd y bilder
Capt Mabe oedd ganddo’n fêt,
A Norman yno’n dysgu
Cael codi shed, medd e.

4) Daeth Glyn i lawr o’r Felin
I helpu gyda’r gwaith
Fe ddylem ddiolch iddo
Am ddod sut yrfa faith.

5) Ken Nicholas oedd ‘na hefyd
Â’i galon yn y job
Dim munud ganddo i sbario
I edrych ar y cloc.

6) Roedd yno bedwar foreman,
Pob un a’i goler gwyn
Jim Mabe yr oedd y pennaf
I gadw’n gwaith i fynd.

7) Roedd Hoffi’n dod yn hwylus
Dim byth â golwg gas,
Roedd stori fach neu glec gan hwn
I gadw hwyl a blas.

8) O grefftwyr Yet y Bontbren
Mor deg yw gweld eich gwaith
Yn adeiladu Noddfa
I deithwyr ar eu taith.

9) Mae yma gysgod cynnes
Rhag gwyntoedd oer y de
Rhaid eto ychwanegu
Canteen i werthu te.

10) Pe chwiliech holl ardaloedd
Rwy’n siwr na welwch neb
Yn well am helpu ardal
Na’n cyfaill Capten Mabe.

11) Fe weithiodd ef ac eraill
Yn galed gydag Ezek
A neb o’r gang yn disgwyl,
Eu talu gyda ‘cheque’.

12)Jim Rowlands a Tom Barton
Roedd yno fel dau gawr,
Dim iws bo dyn yn sefyll
Ar bicas, caib a rhaw.

13) Yn nawr, rhaid i’m derfynu
Neu falle cai y sac
Mae wedi rhoi’r council
I gadw’r lle yn smart.

14)Mae sôn fod merch o’r Boncath
Yn nawr yn hynod keen
Mewn cariad drost ei chlustiau
 Norman Thomas, Clyn.

15) Os daw hi lawr i garu
Caiff Doris* safio nawr
I gynnu tân’n y parlwr
Bob nos hyd doriad gwawr.

16) Fe ânt y ddau i’r Shelter
Yn gynnes ac yn glyd
A charu mewn tywyllwch
A mas  o swn y byd.

17) Cânt garu faint a fynnent
Yn llawen a di-ffws,
Nid oes gwell lle i garu
Na chornel Shelter Bws.

*Doris – Mam Norman.


Translation (diolch i / thanks to Mr M Rhys, Dinas)

1)Well this is the first shelter
Built within the Parish
Where the boys were working
Really hard until late.

2)Everyone working diligently
Not one cross word,
Each one doing his best
To make the place a mansion.

3)Ezec Williams was the builder
Capt Mabe worked as his mate
And Norman was there learning
How to build a shed says he.

4)Glyn came down from the Mill
To help with the work
We should really thank him
For coming such a long way.

5)Ken Nicholas was also there
With his heart in the job
Not a minute had he to spare
To look at the clock.

6)There were four foremen
Everyone with a white collar
Jim Mabe was the foremost
To keep the work going.

7)Hoffi came along cheerfully
Never with a stern glance
Always with a story or tale
To make the work fun.

8)Oh craftsmen of Yet-y-Bontpren
How fair your work appears
Building now a refuge
For travellers on their journey.

9)There is here a cosy shelter
From the cold southern winds
All that is now required
Is a canteen for selling tea.

10)If you search all the districts
I’m sure you wouldn’t find
A man better at helping a community
Than our friend Capt Mabe.

11)He as well as others
Worked hard with Ezec
And none of the gang expected
To be paid with a cheque.

12)Jim Rowlands and Tom Battin
Were there like two giants
No chance for anyone to lean
On a pickaxe, mattock or shovel.

13)And now I must conclude
Or else I’ll face the sack
It’s now been given to the Council
To keep the place smart.

14)There’s a rumour that a girl from Boncath is now extremely keen
In love over her ears
With Norman Thomas, Clyn.

15)If she comes down to court him
Doris* can make savings now
No need for a fire in the parlour
Each night till break of dawn.

16)The two’ll be in the Shelter
So cosy and so warm
Courting in the darkness
Away from the world’s noise.

17)They’ll be courting as long as They want, happily and without fuss
There’s no better place for courting
Than the corner of a Bus Shelter.

(Doris* – Norman Thomas’ mum.)

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.