This is a bilingual post. Please scroll down for English.
Roedd Idwal Lloyd yn wr bonheddig twymgalon a diwylliedig.
Cafodd ei eni yn Rehoboth, plwyf Mathri. Bu’n athro celf am flynyddoedd yn Lerpwl, wedyn yn Ysgol Wdig. Bu’n brifathro am 16 o flyneddoedd yn Ysgol Trefin ac Ysgol Blaenffos am bron i ddeng mlynedd. Ymddeolodd o fyd addysg yn 1963 ac er iddo ef a’i wraig, Margaret, wedyn dreulio tipyn o’u bywyd yn Llundain, yn cadw Gwesty’r Tregaron, bardd y werin ydoedd – bardd crefftus a thelynegol – a’i galon yn y Sir Benfro Gymraeg.
Roedd yn aelod o dîm ‘Talwrn’ chwedlonol ardal Y Preseli,- tîm a gynhwysai W R Evans, Tommy Evans a Waldo, ac yn ddiweddarach, T Gwynn Jones. Enillodd nifer fawr o gadeiriau eisteddfodol ac fe fu’n agos i gipio’r gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur. Rhannodd y dasg o feirniadu prif gystadleuaeth farddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun yn 1986 gyda James Nicholas a T. Llew Jones. Enillwyd y gadair gan Gwynn ap Gwilym am ei awdl ‘Y Cwmwl’.
Wedi ymddeol am yr ail waith i Abergwaun bu’n aelod o Gapel Hermon ac o’r Cymrodorion yn yr ardal. Ysgrifennodd erthyglau a cholofn farddoniaeth yn y papurau bro ‘Y Llien Gwyn’ a ‘Pentigili’. Bu’n hael iawn gyda’i amser fel beirniad cystadlaethau barddoniaeth mewn eisteddfodau lleol, mewn ysgolion, neuaddau pentref a festrioedd.
Yn 1985, cyhoeddodd Barddas y gyfrol “Cerddi’r Glannau” gan Idwal Lloyd – trysor o gyfrol. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd ‘Celtic Word Craft’ gan Dyllansow Truran Cornish Publications. Yn 2000, pan oedd Idwal yn 90 oed, cyhoeddodd Gwasg Gomer gyfrol ‘Cerddi Idwal Lloyd’.
Idwal Lloyd was a noble, warm-hearted and cultured man.
He was born at Rehoboth, in the parish of Mathry. He married Margaret on the 12th of August, 1939, weeks before the start of the Second World War. Idwal became a teacher, teaching art at Liverpool schools for several years. He spent 16 years as headmaster at Ysgol Trefin and almost 10 years as headmaster at Ysgol Blaenffos.
He retired from teaching in 1963, and although he and his wife, Margaret, then spent spent several years in London, running the Tregaron Hotel, Idwal was always a Welshman, a poet of the people, crafting lyrical poems. His heart was in Welsh-speaking Pembrokeshire. He shared the task of judging the main poetry competition at the National Eisteddfod of Wales at Fishguard in 1986 with James Nicholas and T. Llew Jones. The chair was won by Gwynn ap Gwilym.
He was a member of the legendary ‘Talwrn’ poetry team from the Preseli area, – a team that included W R Evans, Tommy Evans, Waldo Williams and later, T Gwynn Jones. He won a large number of eisteddfod chairs and was close to winning the chair at the National Eisteddfod on several occasions.
Having retired for the second time to Fishguard, he became a member of Hermon Chapel and of the Cymrodorion Society in the area. He wrote for and supported the local Welsh language newspapers ‘Y Llien Gwyn’ and ‘Pentigili. He was very generous with his time as a judge of poetry competitions at local eisteddfodau, in schools, village halls and vestrys.
In 1985, Barddas published the volume “Cerddi’r Glannau” (Coastal Poems) by Idwal Lloyd – a treasure of a collection. In the same year, ‘Celtic Word Craft’ was published by Dyllansow Truran Cornish Publications. In 2000, when Idwal was 90 years of age, Gwasg Gomer published the poetry volume ‘Cerddi Idwal Lloyd’.
Gwelir lluniau eraill o Idwal gyda ffrindie Abergwaun fan hyn. Hefyd, gyda chyfeillion y Cymrodorion fan hyn.
Other photos of Idwal, with Fishguard friends, can be seen here. Photos of Idwal with the Cymrodorion (Welsh Society) are seen here.
Idwal collaborated with John Roach from Lower Fishguard to create a song for the Wales Song Competition. The theme of the lyrics was Lower Fishguard.
Cydweithiodd Idwal gyda John Roach o Gwm Abergwaun i greu cân ar gyfer Cystadleuaeth Cân i Gymru. Thema y geiriau oedd Cwm Abergwaun.
Y Cwm
Pan ddêl y gaeaf ar ei dro,
i rheibio twf y sir,
A chodi’r môr yn wallgo wyn,
ai hyrddio ar y tir.
A’r gwyntoedd cras yn curo’n drwm,
ni glywch eu twrw yn y Cwm.
Cyn bod y gaea’n gadael bron,
a mynd a’i lîd a’r ffo
Ddaw’r gwanwyn mewn sandalau gwyrdd,
yn ddistaw bach i’r fro
A phan bo gerddi’r wlad yn llwm,
bydd blodau’n lloni’ gerddi’r Cwm.
Fe ddaw Mehefin maes o law,
a’i hirddydd tesog braf
I ddwyn ymwelwyr lu o bell,
i fwrw gwyliau’r haf
A’r haul a’r môr a gwen fach slei,
yn gwylio merched ar y cei.
Ddaw’r hydref ai ddywydrwydd mawr,
a’i liwiau coeth di ail
Ac yn ei sgil yn fawr ei rhwysg,
ddaw gwynt i gasglu’r dail
A thra fo gallt y foel yn llwm,
Fydd dail o hyd ar goed y Cwm.
Ped elech i bob rhan o’r byd,
Gorllewin, Dwyrain, De.
Neu’r Gogledd maith a chwilio’n frwd,
am lanach, tecach lle
Rwy’n fodlon talu unrhyw swm,
na welech unlle fel y Cwm.
Diolch i John am anfon y gerdd atom.
Thanks to John for sharing the lyrics.
No Comments
Add a comment about this page