Mafonwy (1862-1931)

Llun o Mafonwy yn 36 oed/ Mafonwy aged 36 years.
Llun o'r bardd yn 1905 / A photograph of the poet in 1905

Two poets of national importance, who happened to live in our locality, regularly sent their poems to The County Echo a century ago. They were Mafonwy and Arianglawdd. One an Independent minister, the other a  Baptist minister – Mafonwy lived at Solva and Arianglawdd at Pencaer.

Interest in the Welsh language literary column of The County Echo – “Y Shimme Fawr” (The Inglenook Chimney) was constant across the decades. In 1919, Mafonwy sent an ‘englyn’ verse entitled ‘Y Dyn Teneu’ (The Thin Man).

Croen ag esgyrn a gwasgod – a llodrau,
Lledrith ar ddisperod;
A’r lle roedd efe i fod
Y mae gwisg am ei gysgod.

[A loose translation –

The Thin Man
Skin and bone in a waistcoat – and trousers,
An apparition is he not;
And where he should be
A shadow you will see.]

An ‘englyn’ is a four line verse written in strict metre, this one being a tongue in cheek pen-portrait of the poet himself.

In response, his old friend, Arianglawdd, sent the following matching englyn in appreciation of Mafonwy’s talent..

O’i gysgod yn deg esgyn – hyawdledd
Yn odlau diderfyn;
Miloedd mad ei famwlad fyn
Hudoliaeth ei ber delyn.

[ A loose translation –

From his shadow – fluent rise
Endless rhymes in myriad guise
His admirers, near and far
Await his words, so choice, so wise.]

These two short verses speak volumes about society at that time, and the interest of ordinary people in poetry, on humerous  themes as well as serious or religious themes.

Local nonconformist ministers enjoyed a status within the community on a par with local vicars and the gentry. Arianglawdd and Mafonwy as respected poets and preachers of national renown, were the ‘celebs’ of their day.


Ganed Thomas Davies yng Nghwmllynfell ym 1862. Collodd ei dad pan yn fachgen ac ni chafodd lawer o addysg gan ei fod yn byw ymhell o’r ysgol ddyddiol a thywydd y gaeaf ac angen ei fam am help adeg y cynhaeaf yn aml yn ei gadw gartref. Hoffai’r Ysgol Sul. Yno cafodd ei reddf a’i ddiddordeb naturiol mewn geiriau a chrefydd ei fwydo. Cafodd ei dderbyn yn aelod yng Nghapel Annibynwyr Cwmllynfell pan oedd yn ddeuddeg oed, a dechrau pregethu yn Nhabernacl, Sciwen yn 1883.

Aeth i’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin a phasio ei arholiadau yn 1885. Bu’n weinidog yn James Street, Blaenafon a chael cyfnod llwyddianus yn gweinidogaethu yno. Ar hyd yn y blynyddoedd, bu gan Thomas Davies ddiddordeb mewn ysgrifennu barddoniaeth. Cyn hir yr oedd wedi meistroli y mesurau caeth er mwyn barddoni ar y lefel uchaf. Ef oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Corwen 1893, a gynhaliwyd yn unol â’r arfer ar ddydd Llun Gŵyl Banc Awst.

Priododd yn 1895 gyda Miss Kate Charles. Yn anffodus, ni fendithiwyd Mrs Davies â iechyd, ac o fewn ychydig flynyddoedd, bu farw. Enillodd Mafonwy Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ar am y tro cyntaf  yn 1897. (Bryd hyn, enillwyd y gadair gan J T Job, bugail Capel Pentowr (Methodistiaid), Abergwaun.)

Papur Pawb 23 Hydref 1897 –PARCH T. MAYONWY DAVIES, BARDD CORONOG 1897. Mae llawer o bethau tra thebyg yn hanes Bardd Coronog 1897 i eiddo’r Bardd Cadeiriol. Dug “Mavonwy,” fel “Job,” waed newydd i’r Cylch Eisteddfodol. Gwr cymharol ieuanc yw Mr Davies, yn 36 mlwydd oed, ac felly chwe’ mlwydd yn hýn na’ i gyfaill yn y “gadair.” Fel “Job,” gwyr beth yw’r pwn ar gefn yr awen, beth yw ymdrechu yn galed i sicrhau addysg ac i ddiwyllio ei feddwl, beth yw hunan-aberthu er dringo ysgol dyrchafiad. Er dyddiau mab-oed, daw canu ym mron mor rhwydd iddo ag anadlu, a phan yn ieuanc iawn casglwyd ef, fel ei gyfaill “.Job, i deulu llengar “Cyfaill yr Aelwyd.” Fel “Job” hefyd, mae’r pwlpud wedi rhoi lle i’w dalent naturiol a’i allu ddiamheuol i weithio a dadblygu……”

Yn 1900, derbyniodd Mafonwy alwad i weinidogaethu yn Solfach.

Baner & Amserau Cymru  27-10-1900 –“SOLFACH. Nos Fawrth a dydd Mercher diweddaf, cynnaliwyd cyfarfodydd ynglyn a sefydliad y Parch Mafonwy Davies, Blaenafon gynt, yn weinidog ar eglwys yr Annibynwyr yn y lle uchod. Y pregethwyr fu yn gweini oeddynt y Parchn. Ben Davies, Panteg, Ystalyfera, a J. Pethian Davies (y gweinidog blaenorol), Treherbert, ynghyd â’r Parch. J. Nicholas, Pontypool, yr hwn a bregethodd nos Fercher yn Saseseg. Yn y prydnawn, cynnaliwyd cyfarfod i groesawu y gweinidog newydd. Cymerwyd rhan ynddo gan weinidogion y cylch, y Parchn. T. Lewis, Berea ; Thomas, Trefgarn; – Davies,  Felinganol; – Thomas, Caerfarchell, &c.

Cwynir yn enbyd mewn newyddiadur lleol ar y Bwrdd Ysgol yn y lle uchod, a chyhuddir ef o ddiofalwch am gysur ac iechyd y plant yn yr Ysgoldy, drwy beidio gofalu am yr adeilad lle y dysgir hwynt ynddo.”

Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am yr ail waith yn 1905.

Yng Nghyfrifiad 1911, gwelir y Parch Thomas Davies yn byw yn Y Manse, Solfach, yn weddw.  Yn  cadw tý iddo yr oedd Margaret Davies, 50 oed, a anwyd ym Medwellty, Sir Fynwy.

Ymhen deng mlynedd, yr oedd Mafonwy wedi symud i fyw at ei frawd, Samuel yn ardal Cydweli. Ar ddiwedd y flwyddyn bu farw….

Western Mail 28-12-1931 – OBITUARY. MAFONWY DEAD . Twice Crowned Bard at the National Eisteddfod. The Rev. Thomas Mafonwy Davies, formerly pastor at Solva (Pems.), and one of the foremost poet-preachers of Wales, died at the home of his brother, Mr. Samuel Davies, Brynbrain Farm, Kidwelly, Llanelli……

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.