Dyma gasgliad o bennillion o’r ardal. Byddent yn cael eu hadrodd a’u pasio, ar lafar, o genhedlaeth i genhedlaeth. | Here is a collection of Welsh & Ebglish language verses from different villages in the area. Many are very old and were popularly passed from generation to generation. |
‘Mamgu fach a chapan coch,
Dewch ‘da ni i dwlc y moch,
I glywed y gwynt a gweld y glaw,
A gweld y deryn bach gerllaw,
A gweld y dyn a’r ‘breeches’ lleder,
Yn saethu llong i Frenin Lloeger.’
O ardal Dinas y daw y pennill. Diddorol meddwl os wes cysylltiad gyda Glaniad y Ffrancod fan hyn, oherwydd y linell am saethu tuag at long ar ran y brenin……?
| A verse from Dinas Cross mentioning a man shooting at a ship on behalf of the English king. Possibly there is a connection with the 1797 invasion? This next one is from Fishguard and was recited by a lady who lived and farmed at Windy Hall Farm, where Pen-yr-Aber housing estate stands now. Her daughter, Mrs Hetty Bechler, recalled the verse. |
Dyma’r gweddill gafodd Tomi:
Dwy lwy bren a phib a lletwad
Brwshis blacnin a bocs dillad
Crib a chaib a haearn smwddo
Gwely üs a phownd o dato
Dafad ungorn, cylleth fwtsia
Giâr un lligad (sic.), mochyn cwta.
(This verse is a list of the inherited items which Tommy receives and includes a one horned sheep and a one eyed hen.)
Beth am un o ardal Trefin. ‘Falle y bydd rhywun yn cofio am hon? | A nonsense verse from Trefin which some people may recall? |
‘Twm, Twm y drwmer,
A’i drwyn yn y whilber,
A’r hwch yn pregethu,
A’r neidir yn brathu,
Brath, brath dy eitha’,
Twm fydd y trecha’!’
Ac o golofn Cymraeg y ‘County Echo’ ar yr 22ain o Hydref 1896 y daw y geiriau hyn – ‘Dyma i ti, ddarllenydd, un o hen bennillion Sir Benfro fu, a’r hwn a ganwyd gyda hwyl gan yr hen dadau yn y dyddiau gynt.’ | A verse printed in ‘The County Echo’ on 22nd of October, 1896 bemoaning the disadvantages of old age! It is noted that this was well used in Pembrokeshire by the older generation. |
‘Mae gwaew yn f’aelodau,
A chur yn y pen,
A’r mer bron a darfod,
Fel mwydyn gau-bren.
Y llygaid yn pallu,
A chlustiau’n trymhau,
Pa gysur sydd yma
Yn awr i’w fwynhau?’
Wedi bwrw nodyn diflas, a’n hala ni gyd i’r falen, dewch nawr i gyfeiriad Casblaidd am bennill bach arall. Cofiwch hala gair os daw ambell un i’r cof o’ch ardal chi ‘Y Castell Blaidd am fara haidd, | And now, on a lighter note, a verse mentioning the culinary delights of Wolfscastle, Fford, Spittal and Walton. If you have verses to share, please send them for others to enjoy. ‘Wolf Castle for barley bread, |
Palase Abergwaun / Fishguard Palaces
Cerdd gan y diweddar John Jams, Gofere*. Yn y flwyddyn 1850. / This poem of 1850 recording the significant homes, streets and businesses in Fishguard – some still known, and some long lost. The poet was John James who lived at ‘Gofere’ which was somewhere in Smyth Street.
1 Mae gennyf gân, gwrandewch yn llon, Am Abergwaun i gyd yw hon; Ei chongle i gyd a’i strydoedd oll, A roddir lawr heb un ar goll; Palase hyfryd o bob rhyw Sy gerllaw’r dref lle ‘rwyf yn byw; Eu henwe i gyd yn fawr a mân Chwi gewch yn gryno yn y gân. | 2 Y Palas cyntaf caffo fi Yw Hotipas sy’n hardd ei fri, A Phlas y Fron sydd eto’n well Ac Allt y Dirgel nid yw’n mhell A Phlas y Dirgel yn ei mysg A Llys yr Wyn…….. A’r hen Blaen Delins, llwyd ei wawr Oherwydd gwaelder daeth i lawr. |
3 Mae ‘Hotipas Street’ yn enwog iawn, A Heol Barham o’r tu cewn, A’r Cawse hefyd tua’r môr, A heol fawr y Grand Shinor; Mae’n rhaid cael Walis yn y fleet, Ac wrth ei chwt bydd ‘Baloc Street’; Er mwyn cael trefen wrth fynd rownd, Rhaid enwi’r Lodge a’r Ship-a-Ground. | 4 Y Fort and Castle, palas mawr, A Heol y Cryddion, a Phen Towr, A Phen Rhiw; cael dod yn ôl, Fe ewn am rinwedd i’r Town Hall; A hwnnw’n le o uchel fri A’i lofft uwchben y Farchnad Dre, A’r Sgwâr o’i blaen yn enwog iawn, Mae ‘inns’ a ‘hotels’ yno’n llawn. |
5 Mae Heol y Pistyll eto clywch, A High Street hefyd sydd yn uwch; A’r ‘Mount Pleasant’, nid aml cewch Ysgafnach balas, ffordd yr ewch; A nawr rwy’n teithio fwy a mwy, Nes af at balas y person plwyf, ‘Rwy’n gweled hwnnw’n wael ei lun Er ddarfu i Beca a’i phlant ei drin. | 6 A ‘nawr mi groesaf drost y ca’, A lawr at Gnwc y Ffald mi a’, A’r cyfan welaf yn ‘run man Yw’r Wesh, A’r Slad, a’r hen Fergam; A nawr rwyf bron terfynu ‘nhaith Ac ar ‘run pryd, terfynu ‘ngwaith Ac os gofynnir pwy luniodd hyn, Atebed pawb, NI WN I DDIM |
The County Echo 5-10-1905
No Comments
Add a comment about this page