David Raymond, Ynys Dinas

Llun y llong / Engraving of the Ship
Frank Leslie's Illustrated Newspaper • Public domain

For English translation of this article, please press here.


Slawer dydd, bu’r teulu Raymond yn ffermio yn Ynys Dinas. Aeth David Raymond, fodd bynnag, i’r môr, gan ennill swydd bwysig iddo’i hun. Dyma gopi o erthygl sy’n nodi ei lwyddiannau arwrol yn ystod llongddrylliad yn 1857. Argraffwyd ym mhapur newydd y Bedyddwyr Cymreig ‘Seren Cymru’ ar 17-10-1857. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn ‘Y Drych’ – papur newydd Cymraeg Gogledd America.


Drylliad yr agerlong ‘Central America’. Collwyd dros bedwar cant o fywydau!

Y mae ar ein rhan heddyw i gofrestru un o’r dygwyddiadau erchyllaf ar lechres hanesiaeth morwriaeth, sef drylliad yr agerlong uchod, tra ar ei mordaith i’r ddinas hon (Caerefrawg Newydd), gydag ymdeithwyr ar eu dychweliad adref o California, lle y bu llawer ohonynt yn llafurio yn galed am lawer o flynyddoedd.

Hwyliodd y Central America o Havanna, ar yr wythfed cyfisol, a’r pryd hwnw yr oedd y tywydd yn hyfryd rhagorol; a chawsai dywydd lled deg ar ei mordaith yno o Aspinwall.

Hwyliodd oddiyno ar y chweched cyfisol, gyda theithwyr, llythyrgodau, ac 1,500,000 dollars yn aur, a anfonwyd o San Francisco ar yr 20fed o Awst. Yr oedd ar eu bwrdd 101 o ddwylaw a swyddogion, a rhwng y rhai hyn a’r dychweledigion, cyfrifir y bodau dynol o’i mewn yn 625 ac yn ôl y cyfrifon sydd wedi dyfod i law, ar yr amser yr ydym yn ysgrifenu, fe foddwyd 476.

Mae yr hanes hyd yn hyn yn lled wasgaredig, ac nid hawdd i’w dethol, efallai, yr hyn sydd hollol gywir ond rhoddwn yma adroddiad sobr un boneddwr o’r ddinas hon, yr hwn a aeth i lawr gyda’r llong; ond er hyny achubwyd ef, wedi nofio am chwech neu saith awr!

Cyfododd y gwynt yn lled adnewyddol prydnawn y dydd yr hwyliasom o Havanna. Boreu dranoeth, yr oedd y gwynt yn chwythu yn gryf iawn a pharhaodd i gryfhau fel yr elai y dydd heibio ac at yr hwyr cymylodd yr awyr uwchben, a dechreuodd y gwlaw ddisgyn yn genllif arswydol.

Parhaodd y dymhestl i guro arnom ar hyd y nos, a phan wawriodd boreu Iau, yr oedd y rhuthriadau yn gryfach, a’r mor fel wedi cynddeiriogi i raddau mawr. Cawsom noson o hyrddwynt aruthrol, ac am un ar ddeg boreu Gwener, deallwyd fod planc yn ochr y llong wedi ymneidio o’i le, a llifai y dwfr i mewn. Wedi hyn ffurfiwyd cyfres o weithwyr i ddyhysbyddu y dwfr gyda phob math o lestri; ond, er y cyfan, ennillai y dwfr arnynt, a chyn hir daeth mor uchel nes rhedeg i’r ffwrneisiau, a diffodd y tan o dan y berwedyddion, yr hyn a’n hanalluogodd i symud yn mlaen.

Adnewyddwyd y gwaith o luchio y dwfr allan, gyda gobaith o achub ein bywydau, ac yn y cyfamser ennillasom gymmaint nes ein galluogi i gael tân drachefn, ac felly cynnyrchwyd ychydig o ager eithr ni pharhaodd symudiad y peirianau ond dros ychydig amser, a chawsom ein bwrw drachefn ar drugaredd y tywydd a’r dymhestl.

Yn ystod nos Wener, ennillodd y dwfr gryn lawer arnom; ond gweithiodd pawb hyd eithaf ei allu, gan deimlo fod y boreu yn nesau, ag y gallem weled rhyw long, yr hon a ddeuai i’n gwaredu. O’r diwedd darfu i’r Sadwrn anlwcus wawrio; eithr ni ddygodd ddim gydag ef ond ychwanegiad at erwinder. Ond er hyn oll, parhau i weithio a ddarfu i ni, ac oddeutu dau o’r gloch y prydnawn, arafodd y dymhestl ychydig bach, a gwasgarwyd tipyn ar y du gymylau uwch ein penau.

Adnewyddodd hyn obaith pob un, a gweithiasom fel cewri am enyd; ac oddeutu pedwar o’r gloch gwelem long, yna taniasom ein cyflegrau, a rhoddasom lumanau ar banner ein hwylbrenau. Gwelwyd ni yn fuan, a nesaodd y llestr atom, yr hon oedd y brig Marion, o Boston. Tybiasom yn awr fod ein gwaredigaeth yn sicr, ac wedi iddi ddyfod yn ddigon agos atom, dywedasom ein cyflwr wrthi. Darfu iddi wedi hyn orwedd wrthi tua milltir oddiwrthym, a ni a ollyngasom ein badau i lawr, ac wedi trafferth fawr, trosglwyddasom y merched a’r plant oll ar ei bwrdd.

Yr oedd y nos yn nesau yn awr, a dim gobaith ygallai y cychod ein trosglwyddo oll ar fwrdd y brig; ond yn y cyfwng hwn, canfyddasom long arall, yr hon, wedi gweled ein harwyddion, a ddaeth atom. Dywedodd ein cadben yn mha gyflwr yr oeddym, gan erfyn arni anfon cychod i’n trosglwyddo ar ei bwrdd; addawodd wneyd hyny, ond er ein dirfawr siomedigaeth, ni welsom mohoni mwy, oddieithr ar ei ffo oddiwrthym,  aeth ymaith o’r golwg.

Am saith o’r gloch yn yr hwyr, gwelsom nad oedd modd i ni aros ar wyneb y dyfroedd lawer yn hwy, er ein bod yn perswadio ein hunain, os gallem gadw y llong heb suddo hyd y boreu, y byddem oll yn gadwedig. Yn fuan wedi hyn, golchodd moryn mawr dros yr holl long, a chyda hwn diflanodd bob gobaith daearol.

Rhoddwyd cadwedydd bywyd yn awr i bob un, y rhai a sicrhawyd am ein cyrff, ac mor fuan ag y gwnaed hyn, dyma don fawr arall yn ysgubo dros yr hen long oedd yn mron a myned o’r golwg. Wedi hyn saethasom ddwy ergyd, a chyda hyny dyma pawb yn suddo gyda’r llong, yr hon oedd yn colli o dan ein traed,ac mewn eiliad claddwyd rhwng pedwar a phum cant o bersonau yn yr eigion mawr!

Gwnaeth y llong, wrth suddo, lynclyn mawr, a thynwyd ni oll i lawr gyda hi, o’r hyd lleiaf,ugain troedfedd. Wedi ychydig o eiliadau daethom oll, mae’n debyg, i wyneb y dwfr ac yr oedd y ceidwaid bywyd yn ein dal ar y wyneb yn lled lew, ond etto yr oeddym oll ar y mor mawr llydan, ym mhell oddiwrth bob tir, a nos hir o’n blaen.

Amcanasom gadw yn lled agos i’n gilydd, er fod yn rhaid myned gyda’r tonau. Nid oedd neb yn dweyd fawr o ddim, ac nis gallem weled ein gilydd yr oedd y mor yn bur fras, ac ymddangosai yn fryniau rhyngom a’r awyr, etto tawelasai y gwynt er’s meityn.

Weithiau bloeddiem y naill ar y llall, i’r dyben o galonogi ein gilydd, a dweyd nad oedd gobaith wedi ei lwyr golli. Yn y dull hwn cadwyd ni a phenderfyniad i fyny am o ddwy i dair awr, ac yr wyf yn meddwl na foddodd dim un yn ystod hyny o amser. Ond yr oedd tri nas gallent nofio ar y cyntaf, oherwydd eu llafur a’u lludded blaenorol. Wedi hyn dechreuasant syrthio i dragwyddoldeb o un i un. Yr oeddym yn gobeithio buasai cychod yn cael eu hanfon i ni o’r ddwy long a nodwyd yn flaenorol; eithr pallodd hyn yn fuan, yna nid oedd genym ond ymddiried mewn Rhagluniaeth, ac am ba well ymddiried y gallwn i a chwithau ofyn ?”

Gwelais fod fy nghyfeillion yn syrthio i ffwrdd yn brysur iawn, a thuag un o’r gloch y noson hono, yr oeddwn wedi fy ngadael braidd fy hun ar wyneb celnfor mawr, tua dau gant o filltiroedd oddiwrth dir. Gallwn glywed bloeddiadau oddiwrth y rhai agosaf ataf, o’r rhai oedd heb foddi, eithr nis gallwn weled neb.

Yn mhen tuag awr wedi hyn, sef dau yn y plygain, gwelais long, yr hon a dybiais oedd tua milltir oddiwrthyf. Darfu i hyn fy ysbrydoli oll o’r newydd, a chyfeiriais fy symudiad araf tuag ati; ac wedi llafur caled, ac ymdrechion annisgrifiadwy, cyrhaeddais i’w hymyl. Hwy a glywsant fy llais, a phan ddaethym yn ddigon agos, taflwyd rhaffau i lawr, yn y rhai yr ymeflais, a thynwyd fi i’w bwrdd, pan yn mron wedi llethu gan ludded.

Cefais ar fwrdd y llong dri o’m cyfeillion wedi ei chyrhaedd o fy mlaen, ac o’r amser hwnw hyd hanner awr wedi naw, boreu Sabboth, yr oedd 49 ohonom wedi ein hachub rhag dyfrllyd fedd. Llong Norwegaidd ydoedd, yn rhwym o Belize, Honduras, i Falmouth, Lloegr. Arosodd oddi amgylch y lle am gryn amser, cymmerwyd i fyny yr oll ag ydoedd ar y wyneb, yna hwyliasom ymaith.”

HANESION DIWEDDARACH. Wedi ysgrifennu yr uchod, daeth yr agerlong Empire City i’r porthladd hwn, gyda 92 o bersonau wedi eu gwaredu o afaelion y dyfroedd. Cawsom ein llawenhau yn fawr, ar ddyfodiad y llong uchod i mewn, trwy i’n cyfaill mynwesol, a’r Cymro trwyadl, Mr. David Raymond, Quartermaster, wneyd ei ymddangosiad ar ei bwrdd, yn llawen ac yn iachus.

Mae Mr. Raymond yn ddyn ieuanc, wedi ei eni a’i fagu yn Nghymru, ac yn dra hoff o’r iaith Gymraeg; ac hefyd yr oedd yn dal swydd uchel a phwysig ar yr agerlong Central America, ac mae genym yr hyfrydwch mawr o gyhoeddi y tystiolaethau mwyaf diymwad o’i wroldeb a’i feiddgarwch, yn ei waith yn achub bywydau y teithwyr.

Tra yn ymddyddan yn bersonol â Mr. Raymond dywedai ddarfod i’r Cadben ddyfod ato pan ddaeth yr hwyl-long i’r golwg, a gofyn iddo a fentrai i gymmeryd gofal y bywyd-fad, er trosglwyddo y gwragedd a’r plant i fwrdd y llong. Dywedodd Mr. Raymond ei fod yn barod i wneyd ei oreu i’r dyben o achub bywydau y rhai oedd dan eu gofal.

Gorweddodd y llong wrthi, tua milltir oddiwrthynt, a Mr. Raymond oedd y dyn cyntaf a aeth i lawr i’r bywyd-fad. Wedi gostwng y cychod i lawr, hyrddiwyd dau neu dri ohonynt yn erbyn ochr y llong.

Rhaid oedd iddynt roddi rhaffau am danynt, a thaflu un pen i’r llong, yna llusgo y personau druain i mewn ryw sut. Yr oedd yn bur anhawdd rhwystro iddynt gael eu lladd wrth eu codi a rhaffau i’r llong, canys curid hwy yn erbyn ei hochr, er gwaethaf pob peth.

Sylwodd Mr. Raymond fod cydau llawnion o aur wedi eu sicrhau am ganolau y plant bychain! Gall pawb gasglu fod yr holl ymfudwvr a achubwyd o afael marwolaeth wedi colli pob peth ond ei bywydau, yr hwn oedd yn werthfawrocach na dim arall; a hawdd fuasai cael ei argyhoeddi o hyn, wrth edrych ar y teithwyr, pan laniodd yr Empire City yma boreu Sul. Yr oedd y meibion a’r merched braidd yn noethion, rhai heb un math o grys am eu cefnau, nac esgidiau am eu traed, er fod y morwyr wedi rhoddi cymmaint ag a allent iddynt. Ond pan ddaethant yma cawsant eu diwallu yn fuan.

ALARWM GAN ADERYN. Yr ydym ni bob amser yn dra gwrthwynebol i bob ofergoeledd, ac yn mysg y cyfryw y rhestrwn yr adroddiadau isod, gan y Cadben Johnson, perthynol i’r llong Norwegaidd, – Ellen.

Ychydig cyn chwech o’r gloch prydnawn dydd Sadwrn, y deuddegfed cyfisol, yr oeddwn yn sefyll ar y bwrdd, a dyma aderyn yn ehedeg o’m hamgylch, gan gyffwrdd a fy ysgwyddau yna ehedodd oddi- amgylch y llong, a dechreuodd droi oddiamgylch fy mhen, a deliais ef.

Yr oedd yn wahanol i unrhyw aderyn a welais erioed o’r blaen, ac nid oes genyf un enw arno. Ei liw oedd cochlasaidd, ac yn tueddu i lwydni. Yr oedd ei gorff yn hanner llath o hyd, a’i adenydd yn dair llath a hanner, gyda phig wyth modfedd o’i bon i’w blaen. Torasom ei ben, a thaflasom ei gorff i’r mor, oherwydd ei fod am frathu pawb o’i gwmpas.

Wedi hyn cymmerais hwn yn arwydd i mi i gyfnewid fy ngyrfa, yna troais ben blaen fy llong, yn union i’r dwyrain, ac fel hyn daethym i’r fan lle yr oedd yr agerlong Central America, ac achubais y gwragedd a’r plant.”

Y Drych a’r Gwyliedydd.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.