Picnic Tabor, Dinas, 5-9-1884

Pwllgwaelod i gyfeiriad yr Ynys / Pwllgwaelod in the direction of the Island.
Pwllgwaelod i gyfeiriad y pentre / Pwllgwaelod in the direction of the village.

Dyma erthygl o bapur newydd y Bedyddwyr ‘Seren Cymru’ yn adrodd hanes picnic yr Ysgol Sul ar Ynys Dinas. Nid yw’r lluniau o’r un cyfnod a’r erthygl, ond maen nhw’n helpu i osod naws y lle. Y safle picnic oedd ‘Pen-y-Fan – copa ucha Ynys Dinas. Sonnir am y ‘twnnel’ a redai, yn ôl y sôn, rhwng ogof ar lefel y môr a charreg aelwyd Fferm yr Ynys. Mae adloniant yn dilyn y wledd, a baratowyd gan nifer o wragedd lleol. Mae canmoliaeth uchel yn mynd i Mr D Llewelyn, Tŷ Holm am ei garedigrwydd yn gwneud trefniadau.

This is an article from the Baptist newspaper ‘Seren Cymru’ telling the story of the Tabor Chapel Sunday School picnic on Dinas Island. The pictures are not of the same period as the article, but they help to set the scene. The picnic site was ‘Pen-y-Fan – the very summit of Dinas Island. Mentioned is made of the ‘tunnel’ which supposedly ran between a cave at sea level and the hearth stone of Island Farm. Entertainment follows the feast, which several named local ladies prepared. High praise goes to Mr D Llewelyn, Holm House for his kindness is making arrangements.

‘PEN-Y FAN.’ — Dyma’r lle ddewisiodd eglwys Tabor eleni i roddi gwledd i blant yr Ysgol Sul. Saif Pen-y-Fan ar y man uchelaf ar Ynys y Dinas, ac yn ddiau wedi bod yn le o wrhydri mawr yn amser y rhyfeloedd gwaedlyd fu rhwng yr hen Gymry a’u goresgynwyr creulawn, sef y Normaniaid a’r Scandinafiaid, y rhai a anrheithasant y plwyf o un cwr i’r llall ohono. Tebygol iddo gael ei alw Pen-y-Fan er atgofio am rhyw gyfnod o amgylchiad nodedig.

Cyfrifir Pen-y-Fan yn lle mawreddog gan y trigolion, ac yn yr haf, gwelir minteioedd yn cyrchu yno i gynnal picnics, er adloniant corfforol a meddyliol. Mae’r golygfeydd yn swynol a dymunol oddiar ei goryn uchel. Gwelir yn agos yr holl o’r plwyf, a llawer o blwyfi ereill hefyd. Gwelir Carn Ingli, Carn Englyn, a’r Garn Fawr, yn ymgodi fel pinaclau i’r awyr. Gwelir mor-gilfach Abergwaen a Gwdig, lie y mae llongau bychain a mawrion yn ffoi am gysgod yn yr ystorm; megys llongau mas nach, ager longau, a llongau rhyfel gyda’u gilydd. Hefyd, mor-gilfach Trefdraeth, y Morfa, a Cheibwr, ac i fyny i fynyddoedd Precelly a’r Frenny Fawr.

Wrth fyned yn syth o Ben-y-Fan i waered tua’r mor, ymgoda trwyn mawr y Dinas (Dinas Promontory Head) o’n blaen neu, fel y gelwir ef gan y trigolion, Trwyn yr Hwrdd, lle y mae creigiau ysgythrog, llefydd agenog, holltedig, C, a mor gwyllt ganfyddir dros y dibyn mawr, a thraethau bychain lluosog sydd i’w canfod yma a thraw, lle y gwelir morfilod a physgod yn chwareu ac yn prancian. Dywed traddodiad fod ogof yn myned i fewn o un o’r traethau hyn o dan gareg aelwyd ffermdy yr Ynys.

Yn ddiweddar, mae ty wedi ei adeiladu ar Ben-y-Fan, i wylwyr y glanau (Coast Guards) gan y llywodraeth, yr hwn oedd yn angenrheidiol iawn iddynt, yn neillduol ar dywydd garw. Mae y personau gwasanaethgar hyn yn gallu teimlo yn gysurus wrth wylio llongau mewn stormydd, a gelynion brodorol a all agoshau at ein gwlad; yn nghyd a rhoddi hysbysiadau arwyddluniol o’r hyn a welant.

Prydnawn dydd Mercher cyn y diweddaf, erbyn dau o’r gloch, yr oedd ysgol fawr Tabor wedi d’od yn nghyd yn gryno i ben y Feidrfawr, er gorymdeithio tua Phen-y-Fan. Cychwynwyd dan ganu yn ddau a dau, y bechgyn yn blaeuori, yna’r merched, yna’r athrawon a’r athrawesau, ac yn canlyn yr oll braidd o aelodau’r eglwys, o’r henafgwr hyd y fam a’r baban, nes oeddem yn rhifo cannoedd lawer, er dangos ein parch i ddeiliaid yr ysgol Sul. Ar ol cyrhaedd Pwllgwaelod, awd yn drefnus dros y traeth tywodlyd, a rhyfedd mor adloniadol oedd awyr y mor yn chwythu arnom, gan fod yr hin mor boeth.

Ar ol cyrhaedd Pen-y-Fan, yr oedd pob peth yn ein dysgwyl yn drefnus. Teg yw nodi fod y boneddigesau canlynol yn deilwng o glod mawr am eu hymdrechion i wneyd pawb yn ddedwydd, a gweini mor siriol gyda’r te, sef Mrs Gronow, Ffynnonau Mrs Mendus, Bwlchmawr; Mrs Thomas, Castle Green Mrs Davies, Freemason Arms, Mrs Harries, Castle Terrace: Mrs Howells, Rose Place; a Miss Griffiths, Maeshyfryd. Wedi gorphen a’r te, a phawb wedi eu digoni, a digon yn weddill, cafwyd amryw chwareuyddiaethau diniwed a difyrus, a phawb wrth eu bodd.

Ar hyn cynnygiodd rhyw un yn y dorf, ein bod i ymuno gyda’n gilydd i ganu ychydig donau, a chanu a wnaethom nes oedd y creigiau’n diaspedain gan leisiau’r dorf fawr. Er mwyn tipyn o amrywiaeth, cynnygiodd W. Howell, Rose Place, wobr am yr araeth byrfyfyr oreu. “Te” oedd y testun. Cystadleuodd naw a rhanwyd y wobr rhwng Captain James, Spring Hill, a Mr D. Thomas, Rose Cottage. Yn nesaf, cynnygiodd Mr John Mendus, Llundain, ond genedigol o’r plwyf hwn, wobr. Y testun gwobrwyedig oedd Yr Asyn.’ Cystadleuodd deuddeg; goreu, Mr Joseph Thomas, Rose Cottage. Beirniad, y Parch. T. Morgan, Pontestyll, yr hwn a ddygwyddai fod yn y gymmydogaeth ar y pryd, a gwnaeth yn dda i hwylysu y cwbl yn y blaen.

Wedi areithiau gan wahanol bersonau, a chanu, ymadawyd a Phen-y-Fan a’i golygfeydd dymunol a rhamantus, a chychwvnwyd ddau yn ddau etto, heibio i ffermdy yr Ynys y tro hwn, dan ganu. Mae parch mawr yn ddyledus i Mr Raymond, preswylydd yr Ynys, am ei garedigrwydd. Cawsom ddwfr, tanwydd, llestri, a phob peth gofynol at eiu gwasanaeth; ac yn fwy na’r cwbl, rhoddodd ei aresenoldeb i ni ar ben y Fan. Gobeithiwn gael cwrdd yno y flwyddyn nesaf etto. Gwenau fyrdd arno ef a’i deulu. Mae golwg lewyrchus iawn ar yr ysgol yma yn bresenol, dan arolygaeth Mr D. Llewelyn, Holm House, Dinas.  – CERIDWEN’.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.