Cadfridog Booth ar ymweliad / General Booth visiting locally

Cadfridog Booth - Dinas / General Booth - Dinas

Cadfridog Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, ar daith yn Sir Benfro, Awst 1907.  Erthygl papur newydd ‘Tarian y Gweithiwr’

General Booth, founder of the Salvation Army, on tour in Pembrokeshire,  August 1907.  Article from the ‘Tarian y Gweithwr’ newspaper. (Translation below)

Y Modur Gwyn yn Cludo Cenhadaeth Hedd drwy Gymru

Ar ol cyrraedd Trefdraeth, daeth y Maer—Mr Matthias, Syr Martein Lloyd, yn nghyd a gwahanol weinidogion a thyrfa fawr, a chyflwynasant iddo anerchiad a chodaid o aur. Awd yn mlaen am Abergwaun, lle yr oedd wedi bwriadu myned. Safwyd yn Ninas Cross a chafwyd anerchiad gan y Cadfridog. Derbyniwyd ef gyda brwdfrydedd mawr yma. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapal Hermon, dan lywyddiaeth Dr Williams. Agos i ddeugain milldir mewn modur, rhwng naw y boreu ac un o’r gloch ganol dydd, yn nghyd a thraddodi pedair o anerchiadau ar hyd ochrau yr heolydd, nid oedd yn waith bach i ddyn o oedran y Cadfridog, ond yr oedd yr hen Gadfridog i weled yn adnewyddu ei ieuenctyd fel yr Eryr, ac yn edrych yn llawer gwell yn y nos yn Abergwaun. Siaradodd am dros awr a hanner i gynulleidfa fawr, ac yr oedd y capel yn orlawn.”

Abergwaun – “Nos Fercher diweddaf, talodd y Cadfridog enwog hwn ymweliad a’r lle ar ei daith drwy Gymru. Cyfarfyddwyd ag ef ar ei ddyfodiad i’r dref gan brif foneddigion yr ardal. Diolchodd y gwron amy derbyniad croesawgar. Ar ei ffordd i gapel eang Hermon, lle y gwasanaetha y Parch Dan Davies, galwodd yn mhreswylfod Mr Evans perchennog a golygydd yr Echo, pryd yn ol eu harfer rhoddodd Mrs Evans a’i theulu dderbyniad Cymroaidd i’r Cadfridog Booth.                                                                                               Wedi trwsio ei hun aeth i’r capel, yr hwn oedd yn orlawn o bobl yn ei aros. Llywyddwyd y cyfarfol gan Mr Williams, y Drym, ac yn ei anerchiad ar agoriad y cyfarfod siaradodd yn uchel am y Cadfridog a’i waith. Yna, cafwyd anerchiad gan y Cadfridog ar ddechreuad Byddin yr lachawdwriaeth, ei sefyllfa bresenol a’i dyfodol. Siaradodd am awr o amser i bwrpas. Cynygiodd Mr T Lewis, fferyllydd parchus gyda’r Methodistiaid yn nghapel Pentowr), bleidlais o ddiolchgarwch i’r Cadfridog am ei ymweliad a thref Abergwaun. Eiliwyd ef gan Mr Bennet. Ar y Sgwar, cynaliwyd cyfarfod yn yr awyr agored gan Major Russell, Caerdydd, yr hwn a siaradodd yn alluog yn y Gymraeg. Cefnogwyd ef yn Saesneg gan Major Stewart.”

The White Car carries the Peace Mission through Wales – 

On arriving in Newport, the Mayor — Mr Matthias, and Sir Martein Lloyd, accompanied various ministers and a large crowd, and gave him an address and a bag of gold. Then on to Fishguard, where he had planned to go. They stopped at Dinas Cross and the General gave a speech. He was received with great enthusiasm here. A public meeting was held at Hermon’s chapel, under the presidency of Dr Williams. Close to forty miles by motor, between nine in the morning and one o’clock mid-day, as well as delivering four speeches along the sides of the roads, it was no small task for a man of the General’s age, but the old General was seen renewing his youth as an Eagle does, and looked much better at night in Fishguard. He spoke for over an hour and a half to a large congregation, and the chapel was overcrowded.”

Fishguard – “Last Wednesday, the famous General visited this place on his journey through Wales. He was met on his arrival in the town by the chief gentry of the area. The gentleman thanked the welcoming reception. On his way to the spacious Hermon chapel, where Rev. Dan Davies serves, he called at Mr Evans’ residence (the editor of the Echo), where, as is her way, Mrs Evans and her family gave General Booth a Welsh reception.                                                                                                                                                     After refreshing himself he went to the chapel, which was overcrowded. The meeting was presided over by Mr Williams, the Drym, and in his address at the opening of the meeting he spoke aloud about the General and his work. The General then gave an address on the birth of the Salvation Army, its present situation and its future. He spoke for an hour, to great purpose. Mr T Lewis, a respected Methodist chemist of Pentowr chapel, offered a vote of thanks to the General for his visit to the town of Fishguard. He was seconded by Mr Bennet. On the Square, Major Russell, of Cardiff, held an outdoor meeting, and he spoke Welsh fluently. He was supported in English by Major Stewart.”

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.