'Beulah', Casnewydd Bach / Little Newcastle

Hen lun o Gapel Beulah. Mae'r car a welir wedi ei gofrestri rhwng 1921-25 i'r Parchg J G JOnes, Llangloffan An early photo of Beulah Chapel. The car was registered to the Rev J G Jones, Llangloffan between 1921-25.
Poster Capel Beulah 1917 Beulah Chapel
Capel Beulah Chapel
The County Echo 1921
The County Echo 23-6-1910
Beulah, Casnewydd Bach / Little Newcastle

The Baptist Chapel stands just outside the village. / Saif Capel Bedyddwyr Beulah ychydig y tu allan i Gasnewydd Bach.

(Please scroll down for English version)

Cyfarfu Bedyddwyr yma mor gynnar â 1697. Chwaraeodd John Evans o Rynaston ran flaenllaw yn y gwaith o godi arian ar gyfer adeiladu capel uchelgeisiol. Er i Evans farw cyn i’r gwaith gael ei gwblhau, fe dalodd Mrs Martha Griffiths o Gas-blaidd am godi’r oriel. Gorffenwyd y capel cyntaf yn 1808, a phregethwyd y bregeth agoriadol ar ddydd Llun y Pasg.

Adeiladwyd y capel ar ffurf mur hir. Ymgorfforwyd yr eglwys yn 1823 wrth ryddhau 135 o aelodau o Langloffan. Fe’i hailadeiladwyd ym 1874, ac eto ym 1887 a’i hadnewyddu ym 1910. Roedd y gwaith ailadeiladu mawr a wnaed gan y penseiri G Morgan a’i Fab o Gaerfyrddin a’r adeiladwr Daniel Thomas, o ganlyniad i ymdrechion y gweinidog Jacob John. Bu bedyddiadau yn yr Afon Angof gerllaw. Ar ddechrau’r 20fed ganrif aeth y capel i ddirywiad ac ail ymunodd â Smyrna, Casmael ym 1927. Ym mis Mai 2014 dim ond un aelod oedd ar ôl.

Baptists met here as early as 1697. John Evans of Rynaston played a prominent part in raising funds for an ambitious chapel building. Though Evans died before the work was completed, Mrs Martha Griffiths of Wolfscastle paid for the erection of the gallery. The first chapel was completed in 1808, with the opening sermon preached on Easter Monday.

The chapel was built in the long-wall form. The church was incorporated in 1823 with 135 members released from Llangloffan. It was rebuilt in 1874, and again in 1887 and restored in 1910. The major reconstruction work carried out by the architects G Morgan & Son of Carmarthen and builder Daniel Thomas, and was due to the efforts of the minister Jacob John. Baptisms took place in the nearby River Angof. In the early 20th century the chapel went into decline and rejoined with Smyrna, Puncheston in 1927. In May 2014 there was only one remaining member.

What follows is the newspaper report from “Seren Cymru” (Welsh Baptist publication – 22-7-1910) on the opening of the updated chapel building.

BEULAH, CASNEWYDD BACH. Cymmerodd y cyfarfodydd agoriadol le yn unol a’n hysbysiaeth flaenorol amdanynt, – Mehefin 19eg a hwyr 21ain, yn nghyd a’r 22ain cynfisol. Pregethwyd gan weinidog y lle, hefyd Parchg J W Maurice, Tabor, Dinas; I R Jones, Croesgoch; D P David (Saesneg, ddwywaith); W J Rhys, Smyrna, Casmael; D Lewis Ford (A ); B Thomas Trelettert; D Jones (M.C.) Casmael; J R Evans Llwyn-hendy (ddwywaith, Cymraeg a Saesneg); R Griffiths Bethabara;  A Morgan Blaenffos; J J Evans Rhydwilym; D Davies Abergwaun; Henadur H A Williams, Fferyllydd Trelettert (Saesneg); a J Gomer Lewis D.D. Abertawe.

Cymmerwyd at y rhanau arweiniol o’r oedfaon gan weinidog y lle, Parch J W Maurice, Henadur Williams, J R Evans, Jones Scolton (M.C.), T Rees Casmael, a Mr Wm. Brown Scleddy. Cafwyd cyfarfodydd neillduol o dda o’r dechreu i’r diwedd, yr hîn, y pregethu, y gwrandawiad, a’r casglu yn rhagorol felly. Casglwyd yn agos i £ 70 yn ystod dyddiau yr agoriad. Mae canmoliaeth fawr gan ddieithriaid hefyd i’r wledd gorphorol ddarparwyd. Pasiodd pobpeth yn hyfryd iawn.

Mae rhwymau mawr arnom i ddiolch i’r holl bregethwyr am eu gwasanaeth yn rhad, ac iddynt hwy a’r cynnulleidfaoedd am eu rhoddion gwirfoddol. Nid bychan o beth oedd i’n gweinidogion i bregethu yn ddidal, ond yr oeddent nid yn unig yn gwneuthur hyny, ond yn rhoddi darnau melynion yn ogystal. Taled yr Arglwydd hwynt oll am eu gwasanaeth o gariad at yr achos. Dymunwn gydnabod pawb ag sydd wedi cyfranu mewn unrhyw ystyr at y capel o’r dechreu hyd yr awr hon, mewn modd diolchgar iawn am eu caredigrwydd i ni fel eglwys.

Dywedir wrthym fod genym yn awr un o’r capeli harddaf yn y wlad. Priodolwn hyn i’r Architects, Meistriaid George Morgan a’i Feibion, Caerfyrddin, a’r Contractor, Mr Daniel Thomas, Trelettert, yn benaf yn mhlith llawer. Y mae ymdrech fawr wedi cael ei dangos gan lawer o ddynion er cael y capel yr hyn ydyw heddyw. Ond y mae yn eithaf amlwg mai i Dduw y mae i ni briodoli y gwaith yn benaf, gan hyderu y caiff ei glodfori gan lawer etto yn Beulah newydd fel y cafodd yn yr hen yn ystod canrif ei fodolaeth. Agorwyd Beulah y waith gyntaf Pasg 1808.

Am y brydles a’r capel yr ydym wedi talu o’r dechreu dros £900. Y mae yn aros etto, a gobeithio nad erys yn hir, rywbeth tua £80. A da genym hysbysu fod Dr Gomer Lewis yn penderfynu ein cynnorthwyo etto trwy draddodi darlith yn Beulah nos Fercher, Awst 10fed, ar’ Ffair y Byd.’ Cymerir y gadair gan Mr J H John, Llanychaer. Dymunwn etto cyn gorphen hyn o ysgrif ddiolch i bawb a wnaeth unrhyw beth yn nglyn a’r capel o’r dechreu a dyddiau yr agoriad, am eu caredigrwydd gwirioneddol; ie, a diolch i bawb yn mhell ac yn agos am y ffyddlondeb a ddangosasant trwy roddi eu presenoldeb yn y cyfarfodydd, &c., yn nglyn ag agoriad Beulah. Bydded fod yr Arglwydd yn amlwg gyda’u bobl yn mhob man ac yn Beulah.

0 preswylia’n gyson yma,
Yn mhob oedfa tyr’d i’n plith.
Hyd y diwedd bydd yn Beulah
Er cael pobl fo’n ddirith,
Mewn duwioldeb yn wir enwog,
Mewn gweddio, ac mewn mawl,
Mewn pregethu a blodeuog,
Yn mhob rhinwedd, mýn dy hawl.
TYRCHFAB.

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.