Bocswyr lleol / Local boxers 1910-65
Casgliad o doriadau papur newydd am y cyfnod 1910-65.
A collection of newspaper articles during the period 1910-65.
Ben Jones – Pencampwr Pwysau Ysgafn Amatur Cymru. Ganed Benjamin W Jones ar 8 Hydref 1891 yn fab i Evan a Mary Ann Jones. Bu’r teulu yn byw yn y Wallis (1901) ac yn Jubilee Terrace (1911). Wedi gadael yr ysgol bu Ben yn gweithio i gwmni GWR fel ‘store keeper’. Daeth yn landlord tafarn y Sailors Return yn y Wesh (sef Clwb Rygbi Abergwaun ac Wdig heddiw). We Ben yn ganolog i ddatblygiad camp bocsio yn yr ardal. Cafodd twrnament bocsio a drefnodd yn 1912 ei feirniadu yn hallt a chafwyd protest cyhoeddus gan gapelwyr Abergwaun (gwelir isod). Yn dilyn llwyddiant y twrnament sefydlwyd clwb bocsio newydd yn Abergwaun mewn campfa a gostiodd £40! O fewn mis, cafwyd 130 o aelodau yn y clwb, gyda Tom Furlong wrth y llyw. Ym mhapur newydd ‘Boxing World and Mirror of Life 8-2-1913 adroddir am fwriadBen i amddiffyn ei deitl ond bod peth trwbwl wedi bod ynghylch ei statws fel amatur. Wedi datrys y sefyllfa, roedd ei gefnogwyr yng Nghymru yn edrych ymlaen ato’n ymladd am felt Pencampwr Pwysau Ysgafn Amatur Lloegr. Priododd Ben gyda Gladys (Emma) (g. 21-1-1895) a bu iddynt un ferch – Dilys. Ganed hi yn 1919. | Ben Jones – Amateur Lightweight Champion of Wales. Benjamin W Jones was born on 8th Oct 1891, son of Evan and Mary Ann Jones. The family lived at Wallis (1901) and Jubilee Terrace (1911). After leaving school Ben worked for GWR as a store keeper. He became landlord of the Sailors Return public house in West St (which is today Fishguard and Goodwick Rugby Club). Ben was central to the development of boxing within the local community and there was some conflict between the supporters of boxing and the local chapel going community. A tournament in 1912 caused outrage and a public protest was arranged (see cuttings). Following the success of the tournament a new boxing club was established at Fishguard in a gymnasium which cost £40! With in a month there were 130 members, Tom Furlong being in charge. ‘Boxing World and Mirror of Life’, 8-2 1913, noted that following some trouble about his status as an amateur, Ben had been reinstated as an amateur boxer and his title returned to him. This being resolved, his fans were looking forward to him fighting for the English Amateur Lightweight Champion’s belt. He married Gladys (Emma) (b. 21-1-1895) and they had one child – Dilys. She was born in 1919. |
Glen Moody Ar Fawrth 27ain 1939, ymladdodd Glen Moody o Abergwaun am deitl Pwysau Trwm Ysgafn Cymru yn Neuadd y Farchnad, Hwlffordd, yn erbyn Dai Jones o Rhydaman. Yn wreiddiol o Bontypridd, yn fab i lowr, ganwyd Glen yn 1909. Roedd chwech o frodyr iddo yn focswyr talentog – Jack a Frank oedd y mwyaf llwyddianus. Dechreuodd Glen focsio yn 14 oed a throdd yn broffesiynol yn 16 oed. Yn ddiweddarach mewn bywyd bu Glen yn cadw Tafarn Y Globe, Ffordd y Cwm. Trodd yn hyfforddwr ac yn rheolwr i baffwyr ifanc gobeithiol yn y blynyddoedd i ddod. Enillodd fedal B.E.M. yn 1941 am iddo achub bywydau adeg y Blitz. Ym 1946 roedd ef a’i wraig yn byw yn Y Globe pan anwyd eu trydedd ferch, Ann – chwaer i Barbara ac Evelyn. Glen oedd testun rhaglen ‘This Is Your Life’ ym mis Mawrth 1962 pan gafodd ei synnu gan Eamonn Andrews yng nghyntedd Caffi Brenhinol Llundain. | Glen Moody On March 27th 1939, Glen Moody of Fishguard fought for the Welsh Area Light Heavyweight title at Haverfordwest Market Hall against Dai Jones of Ammanford. Originally from Pontypridd, the son of a coal miner, born in 1909, he later became landlord at The Globe Inn in Main Street. Six of his brothers were boxers, brothers Jack and Frank were the most successful. Glen started boxing at 14 years of age and fought his first professional bout when he was 16 years old. He was a trainer and manager to hopeful young boxers in later years. He won a B.E.M. medal in 1941 for bravery in saving lives during the Blitz. In 1946 he and his wife were living at The Globe Inn when their third daughter, Ann, was born – a sister for Barbara and Evelyn. Glen was the subject of a ‘This Is Your Life’ programme in March 1962 when he was surprised by Eamonn Andrews in the foyer of London’s Café Royal. |
Lyn James Ganwyd George Lyn James yn 1943, yn efaill i Olwen ac yn fab i Dewi a Nan James yn Nhrecwn. Dangosodd ddawn gyda’i ddyrne yn gynnar. Wedi gorffen ysgol hyfforddodd yn saer a symud i fyw i Bontypridd er mwyn manteisio ar hyfforddiant bocsio yno. Glen Moody oedd un o’r hyfforddwr a fu’n eu helpu i ddatblygu ei yrfa. Wedi chwech gornest fel amatur, trodd Lyn yn broffesiynol. Bu’n ymladd yn broffesiynol, fel bocsiwr pwyse pluen, am ddwy flynedd. Priododd Lyn gyda’i gariad Jean, ac fe anwyd merch fach o’r enw Carolyn iddynt. Byddai yn teithio gatre i Drecwn pob penwythnos er mwyn bod gyda’i deulu ac yn gweithio ym Mhontypridd gweddill yr amser. Roedd yn Gymro Cymraeg ac yn ffyddlon yng Nghapel Mamre, Trecwn, lle roedd ei rieni yn aelodau a’i fam yn ofalwraig. Ymladdodd Lyn yn broffesiynol mewn wyth gornest. Yn anffodus, o fewn deunaw mis i eni’r ferch fach, wedi iddo ymladd mewn gornest yn Shoreditch, cymerwyd Lyn i’r ysbyty. Achoswyd niwed iddo yn ystod yr ornest ac nid oedd yn bosib ei achub. Bu farw ym Mehefin 1964, yn un ar hugain oed. | Lyn James George Lyn James was born in 1943, a twin of Olwen and the son of Dewi and Nan James in Trecwn. He showed talent with his fists early on. After finishing school he trained as a carpenter and moved to Pontypridd taking up training in the ring. Glen Moody was one of the coaches who helped him develop his career. After six bouts as an amateur, Lyn turned professional. He fought professionally, as a featherweight boxer, for two years. Lyn married his girlfriend Jean, and a baby girl named Carolyn was born to them. He would travel home to Trecwn every weekend to be with his family and work in Pontypridd the rest of the time. Lyn was a fluent Welsh speaker and would attend Mamre Chapel at Trecwn where his parents were members and his mother was caretaker. Lyn fought eight professional bouts. Unfortunately, within eighteen months of little Carolyn’s birth, following a boxing match in Shoreditch, Lyn was taken to hospital. He had sustained severe head injuries during the match and it wasn’t possible to save him. He died in June 1964, aged 21 years.
|
The New York Times – June 17, 1964
‘LONDON, Wednesday, June 17 —Lyn James, a British featherweight, died in a London hospital early today, six hours after he was knocked out in the last round of a six‐round fight. James, 21 years old, was floored only seconds before the end of his fight with Colin Lake. He jumped to his feet before the count began, but collapsed immediately. He was taken to a hospital near the Shoreditch Town Hall, where the fight was held. Then he was transferred to the National Hospital for Nervous Diseases, where he died at 4 A.M. …….. An inquest is to be held.’
No Comments
Add a comment about this page