Mae’r grŵp yma o bobl yn eistedd ar y bryst sy’n arwain i lawr i Lanpit o Lwybr Pencowrw. Mae amryw ohonynt yn perthyn i’r teulu Owen, Y Slâd. Efallai eu bod yn gwylio y Ffair Cwche Bach a oedd yn digwydd bob Sulgwyn.Gosodwyd stondinau ar hyd y llwybrau i Lanpit yn gwerthu bwyd a diod ac roedd teithiau ar gael mewn cychod bach yn gadael o Llanpit, allan i’r Ffort neu i draeth y Shaffre (tu ôl i’r Cei) yn y Cwm. Roedd y Ffair wedi cael ei dileu yn ystod y Rhyfel Mawr, ond gwnaed ymdrech fawr i’w hatgyfodi yn 1919. | This group of people are sitting on the path that leads down to Llanpit from the Marine Walk. Maybe they are watching the Ffair Cwche Bach “regatta” which took place every Whit Monday. “Ffair Cwchod Bach” means ‘Small Boats Fair’.Stalls were set up along the paths to Llanpit selling refreshments, and boat trips were available in small boats leaving from the landing stage at Llanpit, out to the Fort, or to the Shaffre beach (behind the Quay) in Lower Fishguard. The event was not held during 1914-1918 because so many of the young men were away. A great effort was made in 1919 to revive the tradition. |
No Comments
Add a comment about this page