Cerrig cofnod Hermon / Hermon commemorative stones

Yn y wal, tu fas i’r festri, rhwng Fontane House a Chapel Hermon, mae pedair carreg.  Maen nhw yno i gofio adeiladu’r estyniad ar gyfer  galeri’r organ a’r festri yn 1906. Dyma’r adroddiad o’r ‘County Echo’ ar gyfer 27ain o Ragfyr 1906.

GOSOD MEINI COFFADWRIAETHOL Adeg yr edrychid ymlaen ati gyda disgwyliadau uchel a diddordeb neillduol gan eglwys Hermon, Abergwaun. oedd prynhawn y Nadolig (dydd Mawrth diweddaf). Yr oeddid wedi trefnu ers rhai misoedd i gynnal gwyl arbennig ar y dydd uchod er gosod meini coffadwriaethol yn y festri newydd.

Tua chwe mis yn ol anturiodd yr eglwys ar y gorchwyl o adeiladu y festri, ac erbyn hyn mae yr adeilad, yr hwn sydd yn hynod o gyfleus, bron wedi cael ei orphen. Erbyn hanner awr wedi dau dydd Mawrth yr oedd yna gynulleidfa gref wedi ymgynull i Hermon, a dangosai hyn fod yr aelodau a phobl dda y dref a’r cylch yn cymeryd diddordeb yn yr amgylchiad.

Ar yr esgynlawr yn y capel oeddent y Parch Dan Davies, gweinidog, ymdrechgar a pharchus yr eglwys; Parch Ifan Davies, Llangloffan, gweinidog yr fam eglwys; y Parch J S Davies, gweinidog ieuanc y ferch eglwys yn y Goedwig; a’r Parch J D Summons (M.C.). Wedi i’r Parch J S Davies ddarllen rhan o Air Duw, ac arwain y gynulleidfa mewn gweddi, ac i’r gynulleidfa ganu, rhoddodd Mr James Owen ddatganiad canmoladwy o’r unawd “O rhowch i mi bregeth Gymraeg.” Dywedai Mr Davies nad oedd dim a daniai gynulleidfaoedd Cymry fel pregeth Gymraeg.

Yna rhoddodd yr Ysgrifenydd grynodeb byr o hanes yr eglwys yn Hermon o’i sefydliad hyd yn bresennol. Talodd deyrnged o barch i’r gweindogion rhagorol a fu yn llafurio yn Hermon, ac i goffadwriaeth cymeriadau nodedig fu mewn cysylltiad a’r eglwys o dro i dro, ond erbyn hyn sydd wedi eu galw oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Er fod yr eglwys wedi ei bendithio a gweinidogaeth nodedig o’i chychwyniad, ni phetrusai ddweyd fod cyfnod gweinidogaeth y Parch Dan Davies gyda y mwyaf, os nid y mwyaf—llwyddianus yn ei hanes, a llawn cymaint o undeb a chariad, os nad mwy felly ar hyn o bryd, yn llywodraethu ag a fu erioed yn Hermon, a phrawf o hynny oedd y gweithgarwch a’r llwyddiant a  nodweddai yr achos yn y lle. Yr oedd Mr Davies yn awr wedi bod yn weinidog ar yr eglwys ryw gymaint uwchlaw saith mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnw wedi bedyddio dau gant a deugain, yr eglwys yn rhifo ar hyn o bryd 725. Tra yr oedd yna welliannau ag atgyweiriadau wedi cael eu cario allan, (y rhai oedd wedi costio arian mawr i’r eglwys, a chyn iddi gychwyn gyda’r gwaith o adeiladu y festri) yr oedd yr addoldai, y tai annedd, y fynwent, a holl feddianau yr eglwys yn hollol glir o ddyled, a tua £ 250 mewn llaw i wynebu y draul yng nglyn a’r festri. Teimlai fod gan yr eglwys yn y lle acbos i fod yn ddiolchgar, a phriodol y gallai ddweyd-” Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny yr ydym yn llawen’.

Yn nesaf, siaradodd y Parch Ifan Davies, Llangloffan. Dywedai fod yn llawenydd ganddo fod yn bresenol ar y fath achlysur diddorol yn hanes eglwys Hermon. Yr oedd ganddo reswm arbennig dros fod yn llawen, a hynny am mai merch i Llangloffan oedd Hermon. Cofiai am gymeryd rhan mewn adeg gyffelyb yn hanes yr eglwys o’r blaen pan osodwyd carreg sylfaen Glanainon i lawr, a chofiai am hen frodyr a chwiorydd hynod am eu ffyddlondeb a fu yn perthyn i’r lle yn y dyddiau gynt, y rhai oedd wedi gwneud aberth er mwyn eu crefydd. Dywedai fod Duw yn hawlio ein goreu, ac yr oedd yn falch i ddeall fod y fath dyrfaoedd yn casglu at eu gilydd i Hermon bob Sul ac fod yna arwyddion amlwg eu bod yn ceisio rhoddi eu goreu i’w Gwaredwr.

Siaradwyd yn ddilynol gan y Parch J D Symmons. Fel un oedd yn adnabyddus a hanes y dref, yr oedd yn teimlo yn gynnes iawn at Penucha’r dre (fel y gelwid Hermon). Yr oedd yn arfer credu nad oedd y fath gapel a Hermon i’w gael, a theimlai yn llawen wrth weled golwg mor fyw ar yr achos yn y lle. Siaradai yn hyfryd am y modd y dylem wneud ein goreu i adnewyddu ein crefydd yr un fath ag adnewyddu y ty. Dymunai lwyddiant mawr eto yn y dyfodol i’r eglwys. Ni ddylai orphwys ar yr bryn dymunol oedd wedi gyrhaedd, ond parhau i weithio dros lwyddiant ei achos bendigedig Ef. Dywedai Mr Davies, y gweinidog, mai dyledswydd pob eglwys oedd paratoi gogyfer a’r bobl, a dyna oedd Hermon yn wneud yn yr achos hwn.

Yna, wedi canu emyn, awd allan i osod y meini yn eu lleoedd. Yr oedd yno bedair ohonynt i’w gosod, a’r pwyllgor wedi sicrhau ‘silver trowels’ i’w cyflwyno i bob un o’r boneddigesau i wneud y gwaith. Y rhai y perthynai iddynt yr anrhydedd o osod y meini oedd Miss Bennett, Fontane House; Miss George (chemist); Miss Walters, Morawel; a Miss Edwards, Parcyllyn, Dwrbach. Aeth yr oll drwy eu gwaith yn ddeheuig dros ben, a derbyniwyd rhoddion yn gwneud y cyfanswm rhagorol o ychydig yn fer o £60. Talwyd diolchgarwch gan Mr L Evans i’r boneddigesau a enwyd am eu caredigrwydd yn cymeryd at y gwaith o osod y meini coffadwriaethol, ac hefyd am eu rhoddion ardderchog tuag at draul y festri newydd.—Eiliodd Mr Davies y cynnigiad yn wresog, a dymunai ‘Nadolig dedwydd a blwyddyn newydd dda iddynt oll’.

Teimlid fod y cyfarfod yn gryfhad moesol a chrefyddol i bob un oedd yn bresennol, a gobeithio y bydd i ddylanwad y cyfarfod aros yn yr eglwys, ac ysbrydiaeth newydd yn codi o hanes yr amser a fu, i fod yn nerth iddi fyned yn y blaen yn y dyfodol.

In the wall, behind the vestry, between Fontane House and  Hermon Chapel, there are four stones. They are there to remember the building of the extension for the organ gallery and the vestry in 1906. Here is the ‘County Echo’ report from the 27th of December 1906.

PLACING OF MEMORIAL STONES   recently, was an occasion looked forward to with high expectations and particular interest at Hermon church, Fishguard. On Christmas afternoon (last Tuesday), it had been arranged for some months past, to hold a special festival to place commemorative stones in the new vestry.

About six months ago the church embarked on the task of building the vestry, and now the building, which is extremely convenient, is almost finished. By half past two on Tuesday there was a strong congregation gathered in Hermon, and this showed that the members and the good people of the town and area were taking an interest in the situation.

On the gallery in the chapel were the Reverend Dan Davies, the church’s diligent and respectful minister; Rev Ifan Davies, Llangloffan, minister of the mother church; the Reverend J S Davies, the young minister of the  church in the Goedwig; and Rev J D Summons (M.C.). After the Reverend J S Davies read part of the Word of God, and led the congregation in prayer, and the congregation sang, Mr James Owen gave a commendable rendition of the solo “Oh give me a Welsh sermon.” Mr Davies said that nothing ignited Welsh audiences like a Welsh sermon.

The Secretary then gave a brief summary of the history of the church in Hermon from its foundation to the present. He paid a tribute of respect to the excellent ministers who had worked in Hermon, and to the memory of notable characters who were diligent members of the church fat one time, but now had been called from their work to their reward. Although the church has been blessed with a notable ministry from its inception, he would not hesitate to say that Reverend Dan Davies’ ministry period was as full of union and love, if not more so at the moment, as it has always been in Hermon, and proof of that was the activity and success that characterized the cause in that place. Mr Davies had now been the minister of the church for somewhat over seven years, and during that period had baptized two hundred and forty, the church currently numbering 725. While there had been improvements and repairs carried out, which had cost the church a lot of money, (and that, before it started with the work of building the vestry) the places of worship, the dwelling houses, the cemetery, and all the graves of the church were completely clear of debt, and about £250 in hand to meet the expense of the vestry. He felt that the church had reason to be grateful, and it was appropriate that he could say – “The Lord has done great things for us, for that we are happy”.

Next, the Reverend Ifan Davies, Llangloffan, spoke. He said it was a joy for him to be present on such an interesting occasion in the history of Hermon’s church. He had a special reason for being happy, and that was because Hermon was Llangloffan’s daughter. He remembered taking part in a similar occasion in the history of the church before, when the foundation stone of Glanainon was laid down, and he remembered old brothers and sisters remarkable for their loyalty, who belonged to the place in days of yore, who had made  sacrifice for the sake of their religion. He said that God demands our best, and he was proud to understand that such crowds gathered together in Hermon every Sunday and that there were clear signs that they were trying to give their best to their Saviour.

Reverend J D Symmons spoke next. As someone who was well versed in the history of the town, he felt very warm towards “Penucha’r dre” ( [Top of Town] – as Hermon was called). He used to believe that such a chapel as Hermon was not to be found elsewhere, and he felt happy to see such a lively view of the cause in the place. He spoke beautifully about how we should do our best to renew our religion in the same way as renewing our homes. He wished great success again in the future for the church. We should not rest on the pleasant hill once reached, but continue to work for the success of His blessed cause. Mr Davies, the minister, said that it was the duty of every church to prepare for the people, and that is what Hermon was doing in this case.

Then, after singing a hymn, he went out to place the stones in their places. There were four of them to be installed, and the committee had secured ‘silver trowels’ to be presented to each of the ladies to do the work. Those who had the honor of laying the stones were Miss Bennett, Fontane House; Miss George (chemist); Miss Walters, Morawel; and Miss Edwards, Parcyllyn, Dwrbach. They all went through their work extremely skillfully, and donations were received making the excellent total of just short of £60. Gratitude was paid by Mr L Evans to the ladies for their kindness in undertaking the work of laying the commemorative stones, and also for their excellent donations towards the cost of the new vestry. – Mr Davies seconded the proposal warmly, and wished ‘Merry Christmas and Happy New Year” to them all.

It was felt that the meeting was a moral and religious strengthening for all who were present, and it is hoped that the influence of the meeting will remain in the church, and a new spirituality arising from the history of the past, to be a strength for the future.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.