Mr William James - "Siop Y Bobl"
Mr William James’ shop premises is located near to Fishguard Square. Although it has been empty for some years now, it was, after Mr James’ time, always in use as a ladies’ clothes shop (inherited by his son Morgan James), then a decorating centre, and more recently, a gift shop. Mr James had served his apprenticeship in the drapery trade at Commerce House in Haverfordwest. Being a man of considerable initiative and enterprise he worked up an extensive business at Siop Y Bobol in Fishguard. Besides his business, Mr James had taken a keen and active interest in the public life of the town and identified himself with every worthy cause. He was a member of the old Parish Council before the formation of the Urban area when he became a member of the first Urban Council. He was deeply interested in education and was a governor of Fishguard County School and a member of local group of school managers. He had also served as a member of the Fishguard Tribunal. As one of the promoters of the English Baptist Cause at Fishguard, he was one of the Hermon members responsible for the formation of Bethel English Baptist Church, which opened in 1908. He served most faithfully as a deacon and Secretary of that Church. The family lived at Compton House, 7, Main St during this period. The Autumn Show brochure illustrates some of the fashions of the day!
| Roedd siop Mr William James wedi ei leoli ger Sgwâr Abergwaun. Er ei fod wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd bellach, ar ôl cyfnod Mr James bu’n cael ei rhedeg fel siop ddillad merched (gan ei fab, Morgan James), wedyn yn ganolfan addurno, ac yn fwy diweddar, yn siop anrhegion. Roedd Mr James wedi gwneud ei brentisiaeth yn y fasnach ddillad yn Commerce House yn Hwlffordd. Gan ei fod yn ddyn o gryn fenter, llwyddodd i greu busnes helaeth yn Siop y Bobol yn Abergwaun. Yr oedd Mr James hefyd yn frwd a gweithgar ym mywyd cyhoeddus y dref ac yn uniaethu â phob achos teilwng. Yr oedd yn aelod o’r hen Gyngor Plwyf cyn ffurfiad y Cyngor Trefol, ac yr oedd yn un o’r cynghorwyr cyntaf. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg a bu’n llywodraethwr Ysgol Sir Abergwaun ac yn aelod o grŵp lleol o reolwyr ysgolion. Roedd hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Dribiwnlys Abergwaun. Fel un o hyrwyddwyr Achos y Bedyddwyr Seisnig yn Abergwaun, yr oedd yn un o aelodau Capel Hermon a weithiodd i ffurfio Eglwys y Bedyddwyr Seisnig Bethel, yr hon a agorodd yn 1908. Gwasanaethodd yn ffyddlon iawn fel diacon ac Ysgrifenydd yr Eglwys honno. Roedd y teulu’n byw yn Compton House, 7, Main St yn ystod y cyfnod hwn. Mae pamffled Sioe’r Hydref yn darlunio rhai o ffasiynau’r dydd! |
No Comments
Add a comment about this page