'Ship and Anchor'

Ship & Anchor c1890
Ship and Anchor
Henry, Ann a Mansel Garnon, Ship & Anchor, Abergweun
Olwen Brown a fu yn y Ship & Anchor 1934-40 / Olwen Brown who ran the Ship & Anchor 1934-40
Yn 1985 ymddangosodd erthygl llawn tudalen yn y 'County Echo' ar achlysur agor estyniad newydd i'r dafarn/ Ship & Anchor new function room opening in 1985

This is a bilingual post. Please scroll down for English.

Tafarn y ‘Ship and Anchor’ – mae’n debyg yn yr 1890au, ac hefyd yn y 1990au.

Henry ac Ann Garnon oedd â gofal y dafarn ganrif yn ôl, rhwng 1891 a 1920. Roeddent yn aelodau o eglwys y plwyf (Eglwys y Santes Fair). Fodd bynnag, dylanwadwyd yn gryf ar eu hunig fab, Mansel, gan y diwygiad yng Nghapel y Bedyddwyr Hermon, gyferbyn â’i gartref. Yr oedd e ymhlith yr aelodau newydd a fedyddiwyd un bore oer o Ionawr yn 1904, yn yr Afon Gwaun, gan y Parch Dan Davies.

Yn 1907, gwerthwyd y dafarn –

Lot 2-All that well-known freehold double-licensed public-house known as the “Ship and Anchor,” with most commodious premises and a large garden at the back, in the occupation of Mr Henry Garnon.—The buyer was Mr T. G. Bennett, J.P., Fontane House for £500.” The ‘County Echo’ 30 Mai, 1907.

Roedd Mansel yn Fedyddiwr pybyr a bu’n llwyrymwrthodwr trwy gydol ei oes er iddo frwydro’i ffordd drwy ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dysgodd ei grefft fel saer yn y Brodog a magodd ei deulu ei hun yn Llandudoch. (Am fwy o wybodaeth am y teulu, darllenwch ‘Ody’r Teid yn Mynd Mas?’ gan Mair Garnon James ISBN 9781 84851 3617 Gwasg Gomer) am fwy o wybodaeth am y ‘bedydd mawr – Bedydd yn y Gwaun

Ann Garnon oedd â gofal y dafarn erbyn 1930, Olwen Brown rhwng 1934-40, a ddilynwyd gan Olive Moon, David Bryan, Brian Henry a Geraint Phillips yn eu tro, ac Arthur a Gwen Aylward rhwng 1980 a 2005. Gwerthwyd y dafarn wedyn i gwmni Celtic Inns. Yn anffodus mae’r dafarn hon bellach yn wag a diraen ar ôl bod yn nodwedd o’r Stryd Fawr am o leiaf 140 o flynyddoedd.

Enw’r rhan o’r adeilad sydd ar ochr dde’r llun oedd Cross House. Daeth hwn yn rhan o’r Ship & Anchor pan werthodd y teulu Bennett y tŷ yn y 1970au cynnar. Cyn hynny roedd Joan Bennett wedi byw yno gyda’i mam, Peggy (Gwendoline Margaret Owen gynt). Roedd Peggy yn ferch i Syr Hugh Owen a phriododd â Thomas George Bennett, ŵyr George Bennett, y masnachwr gwîn.

The Ship and Anchor probably in the 1890s, and also the 1990s.

Henry and Ann Garnon were the licensees a century ago, between 1891 and 1920. They were members of ‘St Mary’s’ parish church. However, their only son, Mansel, was strongly influenced by the revival at Hermon Baptist Chapel, opposite his home. He was among the new members baptised one cold January morning in 1904, in the River Gwaun, by the Rev Dan Davies.

In 1907, the Ship and Anchor changed hands at an auction at the Commercial Hotel –

Lot 2-All that well-known freehold double-licensed public-house known as the “Ship and Anchor,” with most commodious premises and a large garden at the back, in the occupation of Mr Henry Garnon.—The buyer was Mr T. G. Bennett, J.P., Fontane House for £500.”     ‘The County Echo’ 30 May, 1907.

Mansel was a staunch Baptist and was teetotal through out his life in spite of having fought his way through the 1st World War trenches. He learnt his trade as a carpenter at Brodog Saw Mills and raised his own family at St Dogmaels. ( For more information about the family, read ‘Ody’r Teid yn Mynd Mas?’ by Mair Garnon James ISBN 9781 84851 3617 Gomer Press) For more information about the January baptism  – Baptism in the River Gwaun

Ann Garnon was in charge of the pub by 1930, Olwen Brown between 1934-40, followed by Olive Moon, David Bryan, Brian Henry, Geraint Phillips, and then Arthur and Gwen Aylward between 1980 and 2005. It was sold to the Celtic Inns company.  Sadly this pub now stands derelict after having been a feature of High Street for at least 140 years.

The section of the building which is on the right of the photo was called Cross House. This became part of the Ship & Anchor when the Bennett family sold the house in the early 1970’s. Previously Joan Bennett had lived there with her mother, Peggy (Gwendoline Margaret, nee Owen). Peggy was the daughter of Sir Hugh Owen and married Thomas George Bennett, grandson of George Bennett who was the wine merchant.

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.