Gwynfa, Plasyfron, Fishguard
This interesting picture shows a proud owner on the threshold of his new home. Around him are the skilled craftsmen responsible for building this substantial house. / Mae’r llun diddorol hwn yn dangos perchennog balch ar drothwy ei gartre’ newydd. O’i gwmpas ma’r crefftwyr medrus we’n gyfrifol am godi’r ty sylweddol hwn.
Gwynfa, Plas y Fron, Abergwaun. Dyn busnes we William Bateman yn berchen ar gwmni poteli diodydd a golchdy ym Mhlasyfron, ym mhen ucha Hottipass, (wrth i chi ymadael a’r dre’, i gyfeiriad Llanychaer). We ganddo hefyd lais hyfryd ac we galw am ei wasanaeth fel unwadydd mewn eisteddfodau a chyngherddau yn yr ardal. John Morgan a’i weithwyr we’n gyfrifol am godi ‘Gwyndy’ i Bateman. Masiwnied we John a’i frawd Thomas. Mab i John we John James Morgan wnaeth sefydlu busnes ‘JJ Morgan’ ger y Brodog i werthu nwyddau i adeiladwyr. Am fwy o wybodaeth amdanynt – gwasgwch fan hyn – Teulu ‘Morgan, Fishguard Saw Mills’ family
Mae’r llun hwn yn dyddio o tua 1892. Yn anffodus, cafwyd tân difrifol yng Ngwynfa yn yr 1930au. Yn dilyn hyn, we’n rhaid ailadeiladu y to a chollwyd ambell ystafell yn y llofft. Newidiwyd enw’r tý sawl gwaith. Bu’n ‘Field Gate’ yn ystod cyfnod y teulu Lloyd Williams yno (prifathro yr ysgol uwchradd) ond erbyn hyn ‘Swn y Coed’ yw’r enw. Heddiw, gelwir y tý sydd drws nesaf yn ‘Gwynfa’.
Yn amser Bateman we’r tir y tu ôl i’r ty yn cynnwys chwarel fach lle cloddiwyd y cerrig ar gyfer y gwaith adeiladu. Yr oedd hefyd perllan i’r dde o’r tý. Erbyn hyn, mae bwthyn wedi ei godi yn y berllan. Ganed William Bateman ym mis Ebrill 1859 yn Llanarth, Sir Aberteifi. Roedd ei dad, Evan, yn 25 oed a’i fam, Sarah, yn 42 oed. Priododd William gyda Sarah Ann Edwards o Abergwaun a bu iddynt bump o blant. Yng nghyfrifiad 1891 a 1901, disgrifir William fel ‘tanner’ – dyn yn paratoi crwyn i fod yn lledr. Lleolwyd y tanerdý islaw Gwynfa ger chwarel Blaen y Delyn, yn edrych dros Can Abergwaun. Bu farw Sarah, gwraig William, yn 1901. Priododd wedyn gyda Harriet Davies – “PRIODAS. Chwef 10, 1904, yn Nghapel Pentowr, Abergwaun, Mr Wm Bateman, Gwynfa, i Mrs H. Price Davies, o’r Sgwâr, Abergwaun.” Gwraig weddw oedd hi a daeth ei mab a’i merch gyda hi i fyw i’r Gwynfa. Erbyn 1921, yr oedd Harriet hefyd wedi marw, ac yr oedd William yn byw yng Ngwynfa o hyd yn 62 oed. ‘Mineral water manufacturer’ oedd y disgrifiad ohonno ac yr oedd ei fab, Evan Iorweth yn gwerthu’r cynnyrch a byw gydag ei dad. Roedd mab arall – David Gwilym yn cael ei ddisgrifio fel ‘laundry proprietor’ a Sarah Olwen yn ei helpu. Roedd y tri plentyn yn byw gyda’u tad a’r cyfan yn medru siarad Cymraeg a Saesneg. Bu William farw yn Ebrill 1937 yn Aberteifi, Ceredigion, yn 78 oed. Gweithdy ‘John J Morgan’ – Timber and Builders Merchant Ym mhapur yr ‘Echo fach’, ar yr un dudalen ag yr ymddangosodd yr erthygl am ‘Olchdý Gwynfa’, ymddangosodd erthygl wahanol yn cofnodi dathliad Gwyl Ddewi Cymrodorion Abergwaun. Yn ystod y noson cafwyd unawd gan William Bateman. Rhoddodd ddatganiad o ‘Cymru Fydd’, ac wedyn fel ‘encore’, datganiad o ‘Yr Eos’. Roedd hyn yng ngwydd yr Archdderwydd Dyfed. Yr oedd y Cadeirydd, Syr Evan Jones yn absennol oherwydd colled yn y teulu. Yr oedd deugain o aelodau’r Cymrodorion yn dathlu yng Ngwesty’r Commercial. Hon oedd yr ailwaith iddynt gynnal cinio arbennig ar Fawrth y 1af ers eu sefydliad. | Gwynfa, Plas y Fron, Fishguard. A shrewd businessman, William Bateman owned a drinks bottling company and a laundry at Plas y Fron, at the top of Hottipass, (just as you leave the town, in the direction of Llanychaer). He also had a beautiful voice and his services were often called on as a soloist at eisteddfodau and concerts in the area. John Morgan and his team of masons and manual workers were responsible for building ‘Gwynfa’. John and his brother Thomas were both masons. John’s only son, John James Morgan, established the business ‘JJ Morgan’ near Brodog selling building materials. For more information about the family press here – Teulu ‘Morgan, Fishguard Saw Mills’ family This picture dates from around 1892. Unfortunately, there was a serious fire in Gwynfa in the 1930s. Following this, the roof had to be rebuilt and a few rooms in the loft were lost. The name of the house was changed several times. It was ‘Field Gate’ during the time when the Lloyd Williams’ family were there (Mr Lloyd Williams was head of the secondary school) but now it is called ‘Swn y Coed’. The name ‘Gwynfa’ has migrated to a dwelling next door to the house in the photograph. In Bateman’s time the land behind the house was the location of a small quarry where stones for the building work were obtained. There was also an orchard to the right of the house. In recent years, a cottage has been erected in the orchard. William Bateman was born in April 1859 in Llanarth, Cardiganshire. His father, Evan, was 25 and his mother, Sarah, was 42. He married Sarah Ann Edwards from Fishguard and they had five children together. In the 1891 and 1901 census, William is described as a tanner . The tannery was positioned below Gwynfa near Blaen y Delyn quarry, overlooking Lower Fishgaurd. Here, animal hides were processed to become leather. Sarah, William’s wife passed away in 1901. He then married Harriet Davies – “MARRIAGE. Feb 10, 1904, at Tower Hill Chapel, Fishguard, Mr Wm Bateman, Gwynfa, to Mrs H. Price Davies, of the Square, Fishguard.” She was a widow and her son and daughter came with her to live at Gwynfa. By 1921, Harriet had also died, and William was still living in Gwynfa at the age of 62. ‘Mineral water manufacturer’ was his given description, and his son, Evan Iorweth worked as a mineral water salesman and lived with him. Another son – David Gwilym was described as ‘laundry proprietor’ and Sarah Olwen helped her brother. The three children lived with their father and all could speak Welsh and English. William died in April 1937 in Cardigan, Cardiganshire, at the age of 78. See also:- Gweithdy ‘John J Morgan’ – Timber and Builders Merchant CHORAL SOCIETY. All music lovers at Fishguard, Goodwick, Dinas and district are invited to attend a meeting to be held at the Town Hall, Fishguard, on Tuesday next at 8 p.m., to consider the advisability of forming a choral society (and to appoint a conductor for same) to compete at the forthcoming National and Cardigan Eisteddfodau. All persons desiring to join the Society are requested to make a special effort to attend the above meeting or to send their names to one of the undersigned. Minimum number of voices required – 120. WM BATEMAN, Gwynfa. JAMES OWEN, West street. A. J. HODGES, Tower Hill. County Echo 11-2-1909 |
“THE GWYNFA LAUNDRY. Our new premises are rapidly nearing completion and when they are ready they will be of the best possibly equipped kind. We are grateful for the very generous promises of support which we have received, not withstanding the efforts made to secure orders for laundry work, which is being sent away, but our project is not a myth, neither will our machinery be of the primitive kind, and having already engaged the services of a Manageress of many years’ experience, the public may rest assured of having their orders executed with the best possible methods and in the most finished style. Due notice will be given before our vans will commence their rounds of the town and district.
W. BATEMAN & Son”
The County Echo – 10-3-1910.
No Comments
Add a comment about this page