Atgofion Pencaer 1930 -1945

Meibion Fferm Tresinwen ym Mhorthsychan
Llun - diolch i'r teulu Lewis, Tresinwen
Llun y lori ddaeth â'r gwaith haearn i bont newydd Strwmbwl yn yr 1950au. Adeiladau Tresinwen sydd i weld yn y cefn.
Llun - diolch i'r teulu Lewis, Tresinwen

Cafodd Mr Gerwyn Williams ei eni ym 1927 ym Mhontiago, Llanwnda. Er iddo fe a’i wraig dreulio blynyddoedd yn byw, magu teulu ac yn rhedeg busnes yn Hendy-gwyn,  we’i atgofion o’i blentyndod ym Mhencâr yn fyw iawn. Rhywbeth fel hyn yr adroddodd ychydig o’i hanes –

Yn grwt, wen i’n hala tipyn o amser yn Nhresinwen yng nghwmni’r brodyr Lewis, – Graham a Ronald, Tresinwen. We ni yn yr ysgol gyda’n gilydd. We tair iet rhwng Tresinwen a’r goleudy bryd hynny, a’r pishyn ffordd, dwi’n meddwl, yn berchen i dad y bois, Mr Charles Lewis, Tresinwen. Bydde ymwelwyr ishe mynd at y goleudy yn yr haf, a bydden ni, dri crwt, yn sefyll wrth bobo iet, yn agor a chau i’r ‘visitors’, ac yn derbyn ceiniog yr un bob tro.

Bydde fy nhad yn gyfrifol am beinto’r goleudy o dro i dro, a’n nhadcu, John y Gof, weithodd yr iet haearn goch (ar ben y steire sy’n arwain at y bont), yn yr efel, ym Mhontiago. Pan adnewyddwyd y bont honno, tua’r 1950au, Jack Pontiago, fy mrawd, gafodd y pishys haearn i gyd i’w hailgylchu yn yr efel.

Bydde’r bois lleol yn adnabod y llanw  o gwmpas Ynys Meicel a Phorthsychan yn dda, o hir arfer. We ni’n hala orie yn pysgota mewn cwchod bach pren rhwng Ebrill a Medi yn flynyddol. Bydde tadcu yn clymu cwch Pontiago wrth bostyn haearn yn y graig am yr haf ac yn ei godi i’r trâth dros y gaea’.  Dysgodd i ni fois bopeth am y tywydd a’r teide.

We ni’n darllen yr arwyddion ac yn mynd i bysgota yn bedwar ar y tro, fel arfer  – dau yn rhwyfo tra bod dau yn tynnu’r lein. We ni’n dal mecryll, wrth gwrs, ond hefyd yn codi cimwchied o’r potie. We tua 30 o botie gyda ni, a hyd at 1953, pan newidodd y rheol, gan ganiatâu i’r Ffrancod ddwâd i bysgota tu fas i’r linell tair milltir, we digon o bisgod i gâl – cant neu ddougant ar y tro, falle. Wrth gwrs, pan ddâth injin ‘outboard’, a lein gyda ‘trace’ wyth bachyn, dath pisgota yn haws o lawer.

Bydde ni blant Pencâr yn joio te ar y trâth ym Mharti Porthsychan pob haf. We’r tecile yn berwi ar y tân, ac we ‘Sports’ i ddilyn yn y parc.
We hwn yn hen draddodiad ers y dyddie pan we cwrdde’n câl’u cynnal yng Nghapel bach Salem, gerllaw. Prinhaodd defnydd y Capel tua’r 1950au, ond we’r te parti yn parhau.

Pan wen i’n ifanc, we hanes obiti gwas bach we’n gweitho yn Nhresinwen o’r enw Wili’r Gelli. Wêdd e’n cwsgu ar y llofft yn y sgubor (sydd a steire yn codi ar ochor fas y piniwn). Yn ddiweddarach, fe â’th i’r coleg i ddysgu bod yn bregethwr. Ysgrifennodd bennill am Borthsychan  a chwch John y Gof.

Fe briododd John y Gof gyda merch o Wdig (St Davids Place). Ei henw we Martha (fy mamgu, medde Gerwyn). Mae’n eitha posib mai capten llong we’i thad hi, oherwydd, wedi i John a Martha  briodi, we gyda nhw’r gallu i godi sawl tý – dou gerllaw i gapel Ebeneser yn Wdig, a thý ym Mhontiago. Wedd John yn un o’r pedwar brawd Williams o efail Trefaser. Dysgodd y pedwar, gan eu tad, grefft y gof.

Ganwyd pedwar o blant i John a Martha Williams, Pontiago…..
– Margaret, yn famgu i Mrs Margaret Watts, Victoria Avenue, gynt o Benmeiddyn, Pencâr.
– Thomas Henry a fu farw yn ifanc iawn.
– Martha a fu farw  yn dri mis oed.      – William Emlyn – tad i Roy, Jac, Beryl, Margaret a finne.

Magwyd William Emlyn a’i chwaer hýn, Margaret, gan eu mamgu, Hannah o St Davids Place, Wdig. Daeth hi i Lanffynnon, Pontiago  atyn nhw wedi marwolaeth ei merch. Bwthyn bach un llawr digon tlawd we Glanffynnon bryd hynny, ond nath John y Gof’i wella, a’i godi ‘n dý dou lawr.

Wedi colli Martha, fy mamgu, fe ailbriododd John y Gof. Dwi’n cofio mwy amdani hi,- fy llysfamgu, nag am fy mamgu fy hunan. Byddai Ta’cu yn  mynd â fi  gydag e i ymweld â hwn a hon, fan hyn a fan co. Plentyn wen i, a wen i ddim yn deall mai perthnase weddol agos we’r bobol rhain, siwr o fod  – yn perthyn i mamgu, ei wraig gynta’. Mae’n eitha posib bod Letys Heti, y bardd gwlad o’r ardal, yn perthyn i ni trwy Dinah Owen, Garnymyl. We Dinah bob amser yn gwisgo het capten llong, ac we Letys yn barddoni tipyn am fywyd obiti’r ardal.

Yn efel Pontiago, we ffermwyr a gweision ffermydd yn dwâd â merlod, cesyg, ebolion a meirch i’w pedoli. Gydag amser ar eu dwylo, tra bo’r gof yn pedoli, bydde rhein yn cyfnewid straeon a hanesion yr ardal. Clywais dipyn am Shemi Wâd, (yr adroddwr straeon celwi’ gole) a’i frawd. We Shemi y  byw mewn bwthyn ar gydiad Glan-y-môr Rd, ar rhiw Stop and Call. Pysgotwr oedd y brawd, ond bydde Shemi yn ennill’i damed wrth neud amrywieth o waith. We ganddo felin wynt fach ar bolyn yn yr ardd. Ar waelod y polyn we bocs, yn llawn cerrig mân o’r trâth. We Shemi yn dewis rhain ar y Parrog, yn’u rhoi nhw i droi a throi a throi yn y bocs, ‘dat we nhw’n loyw lân, yn sheino. Gyda chragen bert a rhywfaint o ddafe lliwgar o’r siop, bydde Shemi yn gweitho ‘souveneers’ â’r cerrig llyfnion, i’w gwerthu yn yr haf i ‘bobol ddwâd’.

Clywes y stori, am y sgwarnog we neb yn medru’i ddala, droeon. Nath Shemi blygu baril ei drill fel bod e’n gallu saethu rownd cornel. Wêdd e ddim yn hir yn dal y sgwarnod wedyn! We sgwarnogod yn fwy cyffredin bryd hynny nag yw cwningod nawr, credwch neu beido!

Wen i’n digwydd bod ym Mhwllderi, ger Trefaser, ar y dwarnod y dadorchuddiwyd y gofeb i Dewi Emrys. We sôn, nôl bryd hynny am ddyn o Drefaser a aeth i fyw yn America a dod yn arweinydd ar gwmni busnes enfawr yno. Ei enw we James William Mathias. Cyhoeddodd lyfr o’r enw ‘Johnny’s Story From Trefasser.’ Er iddo ysgrifennu yn Saesneg, mae’n cynnwys hanes’i fywyd ifanc ym Mhencâr. Dâth disgynnydd o America draw i whilio mwy o hanes amdano shwrne. A’th Johnny i’r ysgol yn llofft stabl Capel Rhosycaerau a chafodd addysg yno gan hen gapten llong we’n rhedeg ysgol i grwts yr ardal.”


Aeth Gerwyn ymlaen i sôn am 1897, pan ddathlwyd canrif ers Glaniad y Ffrancod wrth gyhoeddi llyfryn, cofroddion a map. Atgynhyrchiad o fap a wnaed yn 1797 oedd hwn, a dosbarthwyd un deg pedwar copi i fawrion Abergwaun a chynghorwyr yr ardal. Fel cynghorwr, cafodd Mr Charles Lewis, Tresinwen un  a daeth un arall i Bontiago at John y Gof, gan ei fod e’n eistedd ar Gyngor Plwyf Llanwnda hefyd. (Gwelir llun o John a chynghorwyr plwyf Llanwnda, 1910, wrth wasgu fan hyn.)


“Cafodd y copi hwn ei fframio, â’r pren ar gyfer y ffrâm wedi’r godi o drâth Pwllderi. Cas llong o’r enw yr Agnes Ellen ei dryllio mewn storom yn 1898, ac o bishyn o bren yr Agnes Ellen y gwnaed y ffrâm. Wen i wedi gobeitho câl y map ar ôl dyddie John, fy nhadcu, ond oherwydd i’w ail wraig fyw’n hirach nag e, at ei disgynyddion hi âth y map. Ta beth, symudodd y map o gatre i gatre, dros y degawde, ac wen i’n neud ‘y ngore i’w bwrnu nôl. Yn y pendraw, âth y map o dý yn Aberteifi i siop ‘antiques’, a chafodd ‘i werthu i  un o’r teulu Lyle, Rhyd-y-wennol, Login. O’r fan honno, wedi blynydde o whilio amdano, llwyddes i’w brynu nôl, o’r diwedd. Fydd e ddim yn gadel y teulu ‘to!

Byddwn i’n mynd yn grwt ifanc, i aros yn ffarm Trehywel, gyda’m cefndryd, Gwynfor a Gwilym Edwards. We Lisi, eu mam, yn anti i fi siwr o fod. Dwi’n cofio bod barie haearn ar draws ffenestri llofft y stafell wely. We rheini ers yr amser, slawer dydd, pan we morynion  yn cwsgu yn y llofft ac we gweision, yn ôl hen arfer gwlad, yn trio dod i gadw cwmni iddyn nhw gyda’r nos. We Gwynfor yr un oedran a fi – wedi’i eni yn 1927. We tair moren yn ‘byw mewn’ yn Nhrehywel pan we ni’n ifanc.

 Bydde holl grwts ifanc y ffermydd yn helpu mas gyda’r gwair ym mhob ffarm ‘slawer dydd. We cwên gwair yn weithgaredd cymdeithasol. Yn Nhrehywel, Bristgarn, Trenewi, Penysgwarn…… yr un we’r drefen…… we ford yn y gegin i rhei, a ford yn y parlwr i er’ill. Pan wen i yn dod i’r tý, wen i’n câl ‘y ngwa’dd i’r parlwr achos ‘mab Elwyn Pontiago yw e, a ma’i da’cu e’n gownsilor’. Fel crwt, dyma’r drefen a ddisgwyd i fi, a nes i ddim sylwi lawer bo ffrindie ysgol i fi yn y gegin gyda’r gweision. We safle teuluodd o fewn y gymdeithas yn dal i fod yn beth pwysig, mwy pwysig nag yw e nawr.

We crwts ifanc yn mynd mas da’i gily’, p’yrnu, i saethu. We ni’n mynd mas ar ôl cwningod neu ffesantod. We  ta’cu, John y Gof, yn cadw sawl drill yn yr efel – sawl un yn perthyn i  hwn a hwn, ac wedd e’n cadw nhw’n saff iddyn nhw. Ar un achlysur pan wen i ddim gyda’r bois, fe ethon i saethu ar dir Penrhiw Fach, ar bwys Llanwnda. Digwyddodd ddamwen, a gas crwt ifanc’i ladd. Wêdd hi’n drist sobor.

Slawer dydd, âth ffrind gyda fi lawr i Allt-y-ffynnon ger Carreg Wastad gyda ‘metal detector’ i whilotan am unrhywbeth i neud â’r Ffrancod. Fe ddethon ar draws douddeg pelen blwm gyda’i gilydd. We nhw gyda’i gily’ fel os byse nhw wedi câl’u cario mewn cwdyn lleder.  We hwnnw wedi hen bwdru, wrth gwrs, ond we’r plwm ar ôl. Cadwes i ddwy belen ond ma’r lleill fan hyn a fan co mewn gwahanol amgueddfeydd.

Bues i’n gweitho ar y reilffordd am ugen mlyne’ a gadeles i Bontiago yn bwmtheg wêd. Cwrddes â ngwraig, Eileen, roces o Hendy-gwyn, a buon ni yn rhedeg garej a thý byta ‘Y Forge’, San Clêr am flynydde. Felly, es i o un efel ym Mhontiago i un arall yn San Clêr. Wedyn, ceson gyfle i gymryd siop groser yn Hendy-gwyn, a byw uwchben y siop tan nethon ni ymddeol. We’n merch ni, Siân, yn ddisgybl yn Ysgol Hendy-gwyn. Fe hyfforddodd hi’n athrawes ysgol gynradd, a bu’n dysgu wedyn yn Y Wyddgrug, Dinbych-y-Pysgod a’r Hendy-gwyn.

Dwi wedi hala blynydde yn chwiliotan i hanes y teulu, yn enwedig yr ochor ‘George’. Mae Melin Tregwynt yn dod miwn i’r pictwr hefyd ar ochor teulu mam. Ann Evans neu ‘Nani Felin Ban’ we ni’n galw’r famgu honno. 

 

 

 

No Comments

Start the ball rolling by posting a comment on this page!

Add a comment about this page

Your email address will not be published.